Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

gyflog yn siop y meistr, ac am y gefnogaeth a rpddai'r meistriaid i'w gweith- wyr i yfed yn y tafarnau. Dywedodd Mr. Symons fod y meistriaid yn cefnogi meddwdod, am fod hynny'n cadw'r gweithwyr yn dlawd, a rhwystro iddynt fynd yn rhy annibynnol. Ond sylwadau'r dirprwywyr am gyflwr moesol y bobl, a diweirdeb eu merched, a gynhyrfodd fwyaf o deimlad yng Nghymru. Tystient ein bod yn genedl ddeallus (" er eu bod yn anwybodus, nid oes neb sydd yn haeddu mwy cael eu haddysgu "), yr oedd gennym Ysgolion fíul rhagorol, yr oeddym yn gymwynasgar, ac yr oedd y carcharau bron yn weigion ond, ar yr ochr arall, yr oeddym yn gelwyddog", yn feddwon, ac yn anfoesol. Ar dystiolaeth y rhai a'u cyfarwyddodd y dywedodd y dirprwywyr hyn, debyg iawn. Dyfyn- asant lu o dystiolaethau yn dweud mai peth cyffredin yng Nghymru oedd i ferched ieuainc gael plant cyn priodi, ac nad oedd y bobl yn gweld fawr o ddrwg yn y peth. Offeiriaid Eglwys Loegr, ac ustusiaid heddwch, a phobl eraill o'r un dosbarth, oedd y rhan fwyaf o'r tystion hyn, ond yr oedd ambell Ymneilltuwr yn eu plith-Prifathro Coleg yr Annibynwyr, Aberhonddu, er enghraifft. Cododd yr Ymneilltuwyr mewn gwrthryfel ar unwaith. Gwlad o Ym- neilltuwyr oedd Cymru, yn bennaf, a dyma'r Dirprwywyr hyn, Saeson ac Eglwyswyr, wedi ei phardduo gerbron y byd. Yn yr awyrgylch cynhennus a oedd yn bod ar y pryd rhwng y ddwy blaid, dyna'r modd yr edrychai'r Ymneilltuw\r ar y mater. Wrth amddiffyn enw da Cymru, amddiffyn Ymneilltuaeth yr oeddynt, mewn gwirionedd. Nid oedd modd gwadu'r ffeithiau a ddyfynnwyd, ond y cwestiwn oedd a oedd y ffeithiau hyn yn rhoddi pictiwr teg o gyflwr moesol Cymru. Dywedodd person yn Sir Fôn, mewn llythyr a anfonodd at Dr. Lewis Edwards, fod y ffeithiau a roes ef i'r dirprwywyr yn wir, ac mai yn erbyn ei ewyllys y dywedodd y caswir am ei gydwladwyr, ac nid oes amheuaeth nad oedd ei lythyr yn llythyr dyn onest. Ond fe ellid adrodd hanesion cyffelyb am bobl yn Lloegr ac "ÿsgotland, a rhoddai Adroddiadau'r Dirprwywyr yr argraff fod Cymru'n dduach na'r gwledydd hynny. Bu'r argraff hwn yn hir heb ei ddileu, ac y mae'n amheus a ddilewyd ef eto ymhob man. Ieuan Gwynedd oedd y gwr a afaelodd yn y cwestiwn, a cheisio'i ateb. Cymerth fligurau'r Cofrestrydd Cyffredinol am gyfartaledd y plant a aned i ferched heb briodi (" genedigaethau anghyfreithlon," chwedl yr ystadegau), a dangosodd yn glir a phendant nad oedd Cymru, beth bynnag a allai fod ei beiau, ddim gwaeth na rhannau eraill o Brydain yn y peth hwn. 6.8 y cant oedd y cyfartaledd dros Gymru, a 6.7 y cant tros Gymru a Lloegr gyda'i gilydd. Rhannai'r Cofrestrydd Gymru a Lloegr yn un-ar-ddeg o ran- barthau, a chweched oedd Cymru ar y rhestr. Ond dangosodd Ieuan Gwynedd fwy na hynny. Dangosodd nad oedd cyfartaledd y plant anghyfreithlon yn fesur cywir o anfoesoldeb gwlad, o achos yr oedd y cyfartaledd yn nhre- fydd mawrion Llundain a Lerpwl yn isel iawn-ac nid arwydd o foesau glân y dinasoedd hyn oedd hynny, Yr oedd ffurfiau eraill ar anfoesoldeb