Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

nomeg, Meddyleg, Llenyddiaeth, ac mewn rhai lleoedd, Elfennau Gwyddor. Y rhan amlaf, ceir un ai dosbarthiadau, neu gyfresi byrion o dair neu bedair darlith, a thrafodaeth ar ô1. Y Ddarlith Gyhoeddus ydyw'r ffurf fwyaf cymeradwy gan y rhan fwyaf o'r aelodau eto, ond yn ddiweddar cawsom ddangos ífilmau yn aml yn lie darlithiau. Darlithiau addysgiadol ydynt, gan amlaf. Dangoswyd un ar Blant o Flaen eu Gwell (Children on Tricl) i gannoedd lawer o ferched, aelodau o Gildiau'r Merched bob un. Cafwyd darlithwyr cymwys bob tro i egluro'r fíìlmau, ac i alw am gwestiynau a sylwadau a thrafodaeth. Y mae Mudiad Addysg y Cydweithredwyr yn hynod ymysg mudiadau Addysg y Rhai mewn Oed am fod ynddo, y mae'n debyg, fwy o ferched yn aelodau nag a geir mewn un mudiad addysg arall. Dengys hyn fod agos- rwydd at siopau'r Co-op yn sylfaen yr aelodaeth. Y mae gan Gildiau'r Merched lawer o aelodau, a chadwant gyda'i gilydd drwy gynnal cyfarfod- ydd bob wythnos, a mynd am bleserdaith yn yr haf, etc. Y Gildiau hyn, felly, ydyw sylfaen y gwaith ynglŷn â threfnu cyfarfodydd cyhoeddus a dosbarthiadau addysgu. Nid yw ymdrechion y Pwyllgor i ddenu'r meibion a'r merched ifainc yn llwyddo gystal ag y dymunem. Cyrsiau addysg ynglŷn â'u gwaith sydd yn denu'r bobl ifainc, a chan rywun arall y darperir y rheini Cyfathrach â'r W.E.A.-Bu cysylltiad agos bob amser rhwng Pwyll- gorau Addysg y Co-op a Chymdeithas Addysg y Gweithwyr. Mewn llawer ystyr, gellir dweud ein bod yn mynd tros yr un tir. Fe wnaed trefniadau helaeth fel y gallai aelodau'r Cymdeithasau Cydweithredol ymaelodi yn nosbarthiadau'r W.E.A., a'r cymdeithasau'n talu drostynt wedi iddynt fod mewn hyn-a-hyn o gyfarfodydd y dosbarth. Gwneir darpariadau cyffelyb ynglŷn â dosbarthiadau Mudiad Estyniad y Prifysgolion ( Univjrsity Extension) a rhai'r Awdurdodau Addysg Lleol. Polisi doeth ydyw hwn i arbed gwastraff cystadleuaeth rhwng gwahanol gyfryngau addysg. Y mae hyn yn neilltuol o bwysig pan fo pobl ieuainc yn astudio pwnc arbennig am nifer o flynyddoedd. Rhoddir grantiau i dalu am werslyfrau, ac weithiau telir holl gostau'r llyfrau hyn. Fe'm harweinir i, fel Swyddog Addysg yn y Mudiad Cydweithredol, i ystyried yn ddifrifol, a chyflwyno'r mater i'r Pwyllgor a wasnaethaf, tybed a ddylai'r gwaith addysg sydd yn galw am astudiaeth ddyfal a meistroli gwerslyfrau mewn dosbarthiadau gael ei wneud yn gyfan gwbl mewn cyd- weithrediad â'r W.E.A., a'r Awdurdodau Addysg Lleol, a'r Prifysgolion. Addysg Brcswyl. — Y digwyddiad pwysicaf yn ddiweddar ynglýn ag Addysg Breswyl oedd i'r Undeb Cydweithredol brynu Plas Stanford, Lough- borough, i fod yn Goleg Cydweithredol newydd, yn lle'r hen adeiladau ym Manceinion. Disgwylir o ddeg a phedwar ugain i gant o fyfyrwyr yno y Tymor nesaf. Plasty preifad oedd y coleg hwn o'r blaen, â pharc o dri chan acer o'i gwm- pas, ac y mae'n lle prydferth a helaeth. Hwn ydyw coron ein cynlluniau addysg, a gall aelodau a gweision y cymdeithasau cydweithredol ennill ysgoloriaethau o nifer o ffynonellau i fynd yno. Dywaid Adroddiad diweddar fod y coleg yn dyfod yn ganolbwynt i roddi cyfeiriad mwy effeithiol i addysg drwy hyrwyddo a gwella amrywio- gynlluniau a dulliau o weithio gyda phobl mewn oed a phobl ifainc, Dyla.