Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

gwaith fel hwn fod yn foddion i ddwyn cynlluniau addysg y Mudiad Cyd- weithredol i gyffyrddiad nes â lliaws mawr aelodau'r cymdeithasau, peth y methwyd â'i wneud hyd yn hyn. Gobeithio y daw hwn yn Goleg Canolog, ac y sefydlir nifer o golegau llai mewn cysylltiad ag ef yma a thraw ar hyd y wlad." Heblaw'r coleg yn Loughborough, y mae gan nifer o gymdeithasau eu hadeiladau addysg eu hunain, yn arbennig Hollybank House, sydd yn perthyn i Gymdeithas Gydweithredol Llundain gall myfyrwyr fynd yno i aros am ychydig ddyddiau, i dderbyn cyrsiau byrion ganol yr wythnos, neu i Ysgol Fwrw 8ul. Gellid dweud llawer mwy am y cynlluniau hyn, a hefyd am yr hyffordd- iant technegol a roddir i wasnaethyddion y mudiad i'w cymhwyso ar gyfer eu gwaith, ond y peth mwyaf nodedig ydyw ymlyniad aelodau'r Co-op wrth ddelfrydau addysg boblogaidd a diwylliadol, ac eiddgarwch y swyddogion ac aelodau'r pwyllgorau i gydweithredu â mudiadau eraill, ac yn arbennig â Chymdeithas Addysg y Gweithwyr. Hunangofiant Tomi, gan E. Tegla Davies. Llyfrfa'r Eglwys Fethodist- aidd, Bangor. Pris 4/ Y Delyn, Rhifynnau 1 a 2. Gwynn Publishing Co., Llangollen. Pris 1/- y rhifyn. Dyddiadur 1948. Undeb Cymru Fydd a Hughes a'i Fab. Lliain, pris 2/6. Cofiaf yn dda pan gyhoeddwyd Hunangofiant Tomi gyntaf yn 1910. ac am chwerthin calonnog y bardd Tryfanwy wrth feddwl am yr hogyn diniwed yn clymu'r iâr wrth y postyn i bori yn lle'r mul. Y mae'r llyir erbyn hyn yn un o glasuron yr iaith Gymraeg. Dyma'r portread gorau a gafwyd erioed o aelwyd gweithiwr yng Nghymru. Wee Macg^eegor ydyw'r peth tebycaf iddo yn Saesneg, ond nid yw legla Davies wedi darllen y llyfr hwnnw. Ael- wyd lom gwraig weddw sydd yn Rhys Lewis, a bywyd tv fíarm sydd yn Sioned, ond yn Hunangófiant Tomi fe'n cawn ein hunain ar yr un math o aelwyd yn union ag y magwyd Mr. Davies ei hun arni. Pwy ohonom, a fag- wyd ar aelwyd gyffelyb, a anghofia ei ddisgrifiad o'r tad yn cadw dylet- swydd ganol dydd cyn cychwyn i hebrwng Jac oddi cartref am y tro cyntaf ? Diolch am argraffiad newydd, gan fod y llall wedi ei werthu'n llwyr, ond y mae'n well gen i, er hynny, yîb hen argraffiad. Llongyfarchiadau calonnog i W. S. Gwynn Williams ar ei gylchgrawn newydd gwych, y cylchgrawn cerddorol â'r teitl bendigedig, Y Delyn. Byth na threulied ei thannau. Daeth y Dyddiadur i law pan oedd y rhifyn hwn eisoes wedi ei anfon i'r argraffydd. Hwn, mi gredaf, ydyw'r unig Ddyddiadur Cymraeg Cened- laethol. Rhoddir dwy dudalen i bob wythnos, a cheir 17 tudalen yn llawn o wybodaeth am sefydUadau a phersonau yng Nghymru. Bargen, yn wir. —D,T,