Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TUDALEN Y TREFNYDD Gan C. E. THOMAS BUASWN yn hoffi rhoi hanes pob cangen, ond nid oes dichon gwneud hynny ar un tudalen rhaid imi felly ddethol a didoli. Y mae pob cangen yn gweithio yn ei dull ei hun. Ym Mhrestatyn, credent mai tipyn o bropaganda i wneud y W.E.A. yn fwy hysbys i'r cyhoedd oedd yr angen cyntaf. I'r pwrpas hwnnw, ymgymerodd y gangen â threfnu ymdrech arbennig dros Gronfa Cysuron Llynges Fasnach Prydain, a chafwyd wythnos o wibdeithiau i lecynnau diddorol, a chasgliadau arbennig at y Gronfa, a'r cwbl wedi ei drefnu gan Gangen y W.E.A. Trefnodd Cangen Treffynnon, mewn cydweithrediad â Choleg Harlech, wythnos o ddarlithiau yn y pentrefi cyfagos ar Addysg Pobl mewn Oed, ac E. Cadfan Jones, Athro Llawn Amser y W.E.A. yn Sir Feirionnydd, yn ddarlithydd. Ffrwyth yr ymdrech hon ydyw cael dosbarthiadau newydd- ion yn y cylch, un gyda'r artist cywrain, J. Wynne Parry, LlandriUo, ar Hanes a Gwerthfawrogiad Celfyddyd." Llongyfarchwn ddosbarth Llenyddiaeth Saesneg Shotton ar gynhyrchu cylchgrawn bychan o waith yr aelodau, o dan gyfarwyddyd yr athro, T. O. Jones. Y mae'r Magasîn yn un gwych gellir cael copiau o'r swyddfa am wyth geiniog yr un. Byddai'n dda gweld pob dosbarth yn cynhyrchu cylch- grawn o waith yr aelodau. Gwnaeth Uwchaled hyn am rai blynyddoedd bellach, ac yn awr y mae'n trefnu ar gyfer Eisteddfod W.E.A. 1948. Ar wahân i drefnu dros ddwsin o ddosbarthiadau, trefnodd Cangen Blaenau Ffes- tiniog gyfres o ddarlithiau cyhoeddus, gyda gwahanol ddarlithwyr. Cynhelir hwynt am bump o'r gloch y prynhawn bob yn ail Dydd Sadwrn. Carwn unwaith yn rhagor bwysleisio'r gwahaniaeth rhwng Dosbarth a Changen. Lle bo deunaw disglair lanc yn dyfod ynghyd unwaith yr wythnos am ddeuddeg neu ragor o wythnosau i astudio pwnc, dyna ddosbarth. Rhywbeth gwahanol ydyw cangen. Gellir cael cangen heb ddosbarth pwyllgor ydyw cangen sydd yn gofalu am y trefniadau. Y gangen a fydd yn trefnu Darlithiau Arbennig, Ysgolion Undydd, a Dosbarthiadau. Ar bwyllgor y gangen bydd cynrychiolwyr o ddosbarthiadau'r cylçh, ac o ryw gymdeithasau a ymuno â'r gangen. Y mae cangen yn rhywbeth parhaus, ac yn cyfarfod yn rheolaidd drwy'r flwyddyn. Dylai pob dosbarth berthyn i'r gangen, a chymryd rhan yn y gwaith. Y mae datblygiadau pwysig yn digwydd y dyddiau hyn. Gosododd Siroedd Meirion a Môn Gyd-Bwyllgorau i fyny o gynrychiolwyr o'r Awdur- dodau Addysg, y W.E.A., y Cyngor Cerdd, ac Adran Allanol Coleg Bangor, i drafod a hyrwyddo cynlluniau Addysg Pobl mewn Oed yn y ddwy sir. Credwn fod dyfodol defnyddiol iawn i'r Cyd-Bwyllgorau hyn. Cymeraf y cyfle hwn i atgoffa i'n myfyrwyr a'n haelodau fod Cyfarfod Hanner Blwyddyn Cyngor y W.E.A. yng Ngogledd Cymru i'w gynnal yn Wrecsam un ai'r pedwerydd neu'r pumed Dydd Sadwrn ym mis Ionawr. Anfonir y manylion i'r holl ddosbarthiadau mewn pryd.