Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DOSBARTH LERPWL Gan T. JONES OWEN UN o'r dosbarthiadau hynotaf a berthyn i'r mudiad yn Lerpwl yw dos- barth Llenyddiaeth Gymraeg, a gynhelid yn ystod tymor y gaeaf di- waethaf; dosbarth a'i safon yn uchel; amrywiaeth a chymysgedd talent y myfyrwyr a'u sêl angerddol dros y pethau gorau a berthyn i'n cenedl ym myd Llên, Awen a Chân. Idris Foster oedd ein hathro, a'r gwerslyfr yn ystod y tymor oedd Llen- yddiaeth Gymraeg Tom Parry. Buom yn olrhain hanes cyntefig yr iaith Gymraeg tarddiad geiriau a thermau a'i chysylltiad â'r ieithoedd Celteg eraill. Trin a dadansoddi mewn dull celfydd Lên ac Awen ystyried a phwyso dyrys ddirgeledigaethau barddoniaeth gynganeddol y beirdd a fu ac y sydd. Yn rhan gyntaf y tymor, ymysg y Uiaws beirdd a fu, cawsom gwmni Tudno a Llew Llwyfo bu rhai o'r myfyrwyr yn ddigon hy a di-ofn i ddat- gan eu barn am deilyngdod y ddau frawd ym myd barddoniaeth. O dro i dro daeth Y prifardd, pwar Hwfa i'r golwg, nes atgoffa inni yr englyn cyntaf erioed iddo ei gyfansoddi; englyn i'r Gog,- Y llynedd hi ddarfu'm llonni-yn odiach Nag adar y llwyni; Olynol daeth eleni Eto i Fôn ataf i. Cafodd cynhyrchion awen Hwfa druan driniaeth enbyd gan rai o ael- odau'r dosbarth ar y llawr dyrnu cawsom hefyd brofi yn helaeth o Elusen- garwch bardd y Gaerwen, Eifionydd, ac edmygem ei ddull o bortreadu'r gweithiwr- Dwyn ei geiniog dan gwynaw, Rhoi angen un rhwng y naw. t Aethom hefyd gydag Eben Fardd i weld yr olygfa erchyll, druenus a thorcalonnus, Dinistr Jerusalem, — Llithrig yw'r palmant Uathrwyn, Môr gwaed ar y marmor gwyn Yn Than olaf y tymor cawsom drin yn helaeth a llawn awdl Ymadawiad Arthur T. Gwynn Jones, ac aethom i edrych- Goruwch cymloedd grooh Camlan Lle'r oedd deufur dur yn dân a chlywsom adlais- cri o'r adwythig rawd, Lláès ymadrodd— Llas Medrawd