Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ac yna i olwg Afallon, a chawsom gipolwg ar Arthur Frenin yn rhodio ar y ffordd tua Sanctaidd Ynys Ienctid." Darllenwyd yr awdl drwyddi air am air, a sugnwyd yn helaeth o'i mêl a'i chenadwri dotiwyd at ei thlysni, ei chyfoeth a'i mawredd. Dyna yn fyr hanes y dosbarth yn ystod tymor y gaeaf diwaethaf. Bu'r ystafell yn faes brwydr lawer gwaith, a thanllyd fu'r dadlau nid dadlau er mwyn dadlau, ond yn hytrach fel cyfrwng i ddyfod i afael â'r gwir, ac wedi ei gael, mynd ati i ail afael yng nghorn yr aradr i dorri cwys arall. Beth fydd ein tynged y tymor nesaf, tybed ? Y mae'n hysbys i bawb bellach fod ein hathro wedi mynd o Lerpwl i Rydychen, a mawr yw ein gofid o'i golli, ond llawenhawn yn ei lwydd. Un peth o leiaf a bair lawenydd inni yw bod awdurdodau Coleg yr Iesu, Rhydychen, wedi dewis chwilio ardal fynyddig Eryri am wr addas i eistedd yng Nghadair Rhys." Cynhaliwyd cyfarfod gan yr aelodau yn ddiweddar, cyfarfod i ddymuno'n dda iddo ar ei esgyniad i safle mor uchel ac anrhydeddus. Cafwyd toreth o englynion, penillion, ac areithiau gan yr aelodau, a buddiol fyddai cael hanes y cyfarfod hwn ar gof a chadw, a dyfynnu peth o ffrwyth awen a huodledd y myfyrwyr. RHAI 0 AWDURON Y RHIFYN GEORGE M. LL. Davies, Dolwyddelan-Llywydd y Peace Pledge Union awdur Pererindodau Heddwch, Essays Towards Peace, etc. J. GLYN Davies, Llan Arth, Ceredigion-Athro Celteg gynt ym Mhrif- ysgol Lerpwl awdur Welsh Metrics, Cerddi Huw Puw, Cerddi Portinllaen, etc. DR. T. HUDSON-WILLIAMS—Athro Groeg gynt yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor awdur Y Groegiaid Gynt, Groeg y Testament Newydd, nifer o gyf- ieithiadau o'r Rwseg, etc. Dewi LLWYD Jones, Llanfairfechan-Swyddog Drama Sir Fôn.. Miss Lizzie JONES, Caernarfon-Cynorthwywr Swyddog Ieuenctid Sir Gaemarfon aelod o Ddosbarth Cesarea gynt. D. HUGHES LEWIS, Hwlffordd-Athro-a-Threfnydd Dosbarthiadau yn Sir Benfro, ar Staff Coleg Aberystwyth. Gwyn ILLTUD LEWIS—Cyfarwyddwr Addysg Cymdeithas Gydweithredol Llundain athro cyn hynny yn y Coleg Cydwladol, Elsinôr. Tom JONES Owen, Bromborough, o Gaernarfon gynt-Aelod o Ddos. barth Llên Gymraeg Prifysgol Lerpwl.