Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLYFRAU NEWYDDION Cerddi Dafydd Owen. Gwasg y Brython. Pris 3/6. Wedi deall i twyafrit y cerddi hyn weled golau dydd cyn 1 w hawdur gyrraedd ei bumed-gwanwyn-ar-hugain," bron na thybiwn y gellid olrhain twf yr awdur fel bardd, a lleoli'r cerddi yn ôl trefn yr amser y lluniwyd hwy ganddo. Er bod Dafydd Owen erbyn hyn yn ffigur cenedlaethol, nid adwaen i ef yn bersonol, ac ni ddaeth cyfle chwaith i'w glywed yn pregethu. Eithr nid anghofiaf yrhawg ei bortread cynnil o gymeriad mewn perfformiad gan (Iwmni'r Coleg-cameo, yng ngwir yr ystyr. Ond beth sydd a wnelo hynny â'r cerddi ? meddwch. Dim ond bod eu darllen yn arwain fy meddwl yn ôl ac yn fy ngorfodi i gysylltu'r actiwr a'r bardd, a chael yr un teimlad yn fy esgyrn ag a gefais yn y ddrama, sef bod yr actiwr yn ei dro, a'r bardd yntau yn ei dro, yn feddiannol ar "synnwyr pen" anghyffredin, ac ar ddawn ymatal ­dawn brin, ysywaeth, ymhlith rhelyw beirdd y colegau. Y mae ei gerdd mewn vers libre i'r Pnob Academig yn ddeifiol. Saif Dafydd Owen ei hun tu allan i'r cylch cyfrin hwn, oblegid ni ddefnvddia ef wn a choleg yn dariah," eithr yn llaw-forynion i'r ddawn gynhenid sydd ynddo, Mwynheais ei bryddestau yn fawr iawn, ac y mae rhai o'i ddarnau byrion hefyd yn gofiadwy. Yn yr Ardd. Sgyrsiau Radio Tom Jones. Gwasg y Brython. Pris 3/6. Tom Jones Llanrûg-dyna fel y gelwid awdur y sgyrsiau hyn ar lafar gwlad. Sgyrsiau ar arddio ydynt, a ddarlledwyd gan un o ddoniau prin Tonfedd Cymru. Y mae ysfa ynof i alw ei lyfr yn Llenyddiaeth y Pridd a chyda llaw, y mae graen ar bopeth a berthyn i'r gyfrol dlos hon-y siaced lwch, a llun yr awdur; y rhagair, yr englyn, a'r sgyrsiau eu hunain. Wele lyfr ar arddio mewn Cymraeg plaen-llyfr difyr ac adeiladol, mewn mwy nag un ystyr-ø. Thom Jones yn sgwrsio'n hamddenol, ddiffwdan, yn sôn yn ei ffordd ddihafal am falwod a phryfed a chwyn, ac yn wir ym mhara- graff olaf y llyfr yn rhybuddio Adde i ochel twyll, nes atgoffa i ddyn y cwymp yn Eden gynt. Bron na theimlech eich hunan yn cael eich perswadio mai gorchwyl hawdd fyddai troi pob hen ardd yn baradwys, a hynny heb or- lafurio, gan mor ysgafn-bwyllog yw arddull yr awdur. Dylai'r llyfr hwn fod yn llaw pob perchen gardd, boed fach neu fawr, ond yn bendant fe fydd yn symbyliad i'r sawl na fedd bwt o ardd o gwbl i chwilio am lain o dir i'w drin. LIZZIE JONES Dwy Frân Ddu, gan E. Eynon Evans (cyf., J. EUis Williams). Comedi mewn pedair act. Cyhoeddedig gan y cyfieithydd. Pris 2/6. Y Bore Bach, gan Ronald Hadlington (cyf., Frank Price Jones). Ffantasi un act. Gwasg Gee. Pris 1/6. Llenyddiaeth i actorion, technegwyr llwyfan, a chynulleidfa, yw pob drama, ac nid cyfrol i'w gosod mewn llyfrgell. Y dramâu a roddir ar lwyfan sydd yn adlewyrchu safon y ddrama mewn unrhyw wlad-ac fe rydd y ddwy hyn ddarlun pur dda o gyflwr y d Lama yng Nghymru heddiw.