Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyfieithiadau yw'r ddwy-un o waith Eynon Evans, gyrrwr bws sydd erbyn hyn yn ceisio byw wrth ysgrifennu dramâu, a'r llall o waith Ronald Hadlington, athro ysgol. Heb gopiau o'r dramâu yn Saesneg ni ellir barnu gwerth llenyddol y cyfieithiadau, ond yn y ddwy y mae'r iaith yn addas o safbwynt llwyfan, ac yn ddealladwy (gydag ychydig gyfnewidiadau yma a thraw) i Dde a Gogledd. Oherwydd prinder dramâu da yn Gymraeg, dylid croesawu pob cyfieithiad os bydd y safon yn deilwng. Comedi bedair act i bump o ferched a chwech o ddynion yw'r gyntaf, yn darlunio ystrywiau perchennog gwesty a chyfaill iddo i geisio dyfod â hapusrwydd i fywyd ymwelwyr. Llwyddant, ac yn sgil y llwyddiant hwnnw daw hoen i fywyd teulu'r gwesty hefyd. Yn ei thema canolog, nid yw hon yn annhebyg i The Dover Rocd (A. A. Milne), ond y mae'n rhy wasgarog ei chrefft i gyrraedd safon y ddrama honno. O'i chymharu â chomedïau eraill Cymraeg, fe ddeil ei thir. Nid yw gyfuwch â Pelenni Pitar, neu gomedïau Idwal Jones, ond y mae, ar y cyfan, ychydig yn uwch na'r comedïau a gy- hoeddir yn gyffredin. Haedda ei chwarae gan y mwyafrif o gwmniau, a gallai cwmni uchelgeisiol ddysgu llawer oddi wrthi heb ostwng ei safon yn ormod. Rhoddir peth cyfarwyddiadau am y llwyfan, ond trueni i'r cyfieithydd ddefnyddio plan llwyfan y ddrama Saesneg yn hytrach na'r plan sydd yn y cyfieithiad. Cytuna pawb fod safon y ddrama un act yng Nghymru yn uwch na safon y ddrama hir, ac y mae ffantasi Ronald Hadlington yn gyfraniad gwerthfawr a phendant ym maes y ddrama un act. Gellid ei chwarae gan blant neu glyb- iau ieuenctid. Anifeiliaid ac adar yw'r cymeriadau-pymtheg ohonynt- a'u hymateb hwy i ddyfodiad dyn yw prif bwnc y ddrama, yn enwedig agwedd y ci at y creadur newydd. Drama farddonol ei harddull ydyw, ac y mae'n bleser medru ei chymeradwyo yn gynnes iawn. DEWI LLWYD JONES CYFEIRIADAU Ysgrifennydd Cyffredinol, Cymdeithas Addysg y Gweithwyr- Ernest Green, 38a St. George's Drive, London, S.W.I. Trefnydd, Rhanbarth Deheudir Cymru, Cymdeithas Addysg y Gweithwyr- D. T. Guy, Swyddfa'r W.E.A., 38 Charles Street, Caerdydd. Trefnydd, Rhanbarth Gogledd Cymru, Cymdeithas Addysg y Gweithwyr- C. E. Thomas, Swyddfa'r W.E.A., Bangor. Golygydd LLEUFER-David Thomas, Y Betws, Bangor. Goruchwyliwr Busnes LLEUFER-D. Tecwyn Lloyd, Coleg Harlech, Harlech. Dosbarthwr LLEUFER—Mrs. Vera Meikle, Swyddfa'r W.E.A., Bangor.