Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Coleg Prifathröfaol ABERTAWE Un o'r Colegau ym Mhrifysgor Cymru Dechreuir gwaith y Coleg am yr wythfed flwyddyn ar hugain Hydref 1, 1947. Paratoir ar gyfer (a Graddau Prifysgol Cymru yn y Celfyddydau, mewn Gwyddoniaeth, Meteleg, a Pheirianneg. (b) Dysgu athrawon ysgol elfennol ac ysgol ganolradd. (c) Arholiad meddygol cyntaf Prifysgol Cymru. (d) Blwyddyn gyntaf y cwrs ar gyfer gradd Baglor mewn Pensaerniaeth ym Mhrifysgol Cymru. (e) Rhan ddechreuol y cwrs astudiaeth ar gyfer gradd Baglor mewn Fferylleg ym Mhrifysgol Cymru. (f) Cwrs blwyddyn llawn yn Arweinyddiaeth a Threfniant Ieuenctid. Cydnabyddir cyrsiau'r Coleg mewn Gwyddoniaeth fel blwyddyn gyntaf cwrs meddygol gan nifer o gorfforoedd sy'n trwyddedu meddygon. Cynigir ysgoloriaethau yn Ebrill bob blwyddyn. Ceir manylion pellach gan y Cofrestrydd- Coleg y Brifysgol, Parc Singleton, Äbertawe