Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLEUFER CYLCHGRAWN CYMDEITHAS ADDYSG Y GWEITHWYR CYF. IV NODIADAITR GOLYGYDD YN ystod misoedd cyntaf y flwyddyn hon, cyhoeddwyd dau lyfryn pwysig iawn gan Adran Gymreig y Weinyddiaeth Addysg, sef Adroddiad y Gweithgor ar Weinyddiad Addysg yng Nghymru, ac Addysg yng Nghymru 1847-1947." Nid anfonwyd copïau ohonynt i mi i'w hadolygu, ond y maent mor bwysig ni allaf fforddio mynd heibio heb roddi sylw iddynt. Penodwyd y Gweithgor gan y Weinyddiaeth Addysg ym mis Rhagfyr 1946, i ystyried yr angen am Gyd-Bwyllgor Addysg Cymreig," a pha swyddogaeth a gallu y dylid eu rhoddi iddo. Rhoes y Gweithgor olwg dros holl faes addysg gyhoeddus yng Nghymru (ag eithrio gwaith academig y Brifysgol oddi mewn), a chymeradwyodd sefydlu un Corff cenedlaethol i ofalu am y maes i gyd. Byddai'r Corff hwn-" Cyd-Bwyllgor Addysg Cymreig y gelwir ef-yn adolygu addysg plant a phobl mewn oed, ac yn trefnu graddau go helaeth o gydweithrediad a chydsymudiad" rhwng holl Bwyllgorau Addysg Cymru a'i gilydd. Nid yw agwedd y Gweithgor at Gymdeithas Addysg y Gweithwyr yn rhy garedig, ac y mae'n amlwg nad oedd ganddo fawr o syniad am ei swydd arbennig hi yng nghyfundrefn addysg y wlad ond, er hynny, fe argymell benodi Pwyllgor Sefydlog ynglŷn ag Addysg Pobl mewn Oed, i gyfuno gwaith y Brifysgol a'i cholegau, y Pwyllgorau Addysg, a Chymdeithasau Gwirfodd fel y WEA. Y mae rhai o'r Pwyllgorau Addysg eisoes wedi penodi Pwyllgorau Sefydlog o'r fath o fewn eu terfynau eu hunain, a thrwy gyfrwng y Pwyllgor Cenedlaethol fe ellid trefnu cryn lawer o gydweithrediad gwerthfawr rhyngddynt. YNG NGHYMRU HAF 1948 Rhif 2