Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

RADAR GAN EMRYS WILLIAMS NID oedd neb yn hoffi'r Rhybuddion Cyrch Awyr. Neu, efallai y dylaswn ddweud, a bod yn fanwl, nad oedd neb yn hoffi'r Cyrchoedd Awyr eu hunain. Nid oedd y seiren a roddai'r rhybudd yn haeddu bod mor amhoblogaidd ag yr oedd, o achos hyhi a roddai inni'r ychydig funudau gwerthfawr i redeg i ymochel. Golygai'r pum munudau hynny fywyd neu farwolaeth i lawer o bobl. Pum munud. Pa gyn belled y gallai bomiwr y gelyn ehedeg mewn pum munud, tybed ? Ugain milltir, efallai. A fuoch chwi'n gofyn i chwi eich hunain sut y medrem-ni wybod yn y tywyllwch fod y bomwyr hyn ar eu ffordd tuag atom, a hwythau ugain milltir i ffwrdd, ac efallai uwchben y mor ? Gwyddai'r Prif Wardeiniaid a wyliai'r cyrchoedd awyr fod rhyw ddull cywrain o ddarganfod llongau awyr y gelyn ar waith, oherwydd derbynient hwy rybudd hyd yn oed cyn i'r seiren ganu. Rhaid bod aml un ohonynt wedi edrych ar ei watsh, a dweud, Ugain munud. Y maent wedi ehedeg bedwar ugain milltir er pan gawsom ni'r rhybudd. Sut y gwyddem. ni eu bod-nhw yno, tybed ? Cyn hir, dechreuodd pobl sylwi ar dyrau uchel o bren a adeiladwyd mewn llawer lle ar hyd y glannau. Byddent bob amser yng nghanol cae mawr â weiren bigog o'i amgylch. Saf- ai gwylwyr yn gwylied wrth bob llidiart. Gosodwyd rhybudd- ion i fyny i ddweud wrth fodurwyr nad oeddynt i adael eu ceir yn sefyll yn unlle yn agos. Dechreuodd stori ryfedd a dieithr gael ei lledaenu o gwmpas, fod y tyrau hyn yn anfon allan donnau radio a allai stopio peiriannau llongau awyr y gelyn. Dywedai pobl wrthych eu bod yn adnabod rhyw ddyn a adwaenai ddyn arall a oedd yn gyrru heibio i un o'r tyrau hyn un diwrnod, pryd y safodd ei gar yn stond a gwrthod symud cam. Methodd pob ymgais a wnaeth i'w ail-gychwyn. Ac yna (yn ôl y stori), daeth swyddog heibio ar gefn ceffyl, a dweud wrtho am beidio â phoeni, Bydd eich car yn gallu symud eto ymhen pum munud Dywedwyd y stori hon mor aml, ac mewn cymaint