Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

HEN EWYLLYSIAU GAN BOB OWEN II "YTR hyn a geir yn Ewyllysiau y gwyr mawrion yw manylion am diroedd, tai, tyddynnod a bythynnod y plwyf am eiddo mewn gwahanol sefydliadau ac, ond odid, er syndod a braw i'r chwilotwr, na cheir cyfeiriadau at Gymynroddion i ysgolion, tlodion, dysgu prentisiaid, etc., sydd erbyn hyn wedi myned yn llwyr angof gan drigolion y fro. Ceir cyfeiriadau weithiau at gymynnu Elusennau a aeth ar goll bellach, rhai na ddaeth y Comisiynwyr i wybod un dim amdanynt adeg yr Ym- chwiliadau i Elusennau'r Plwyfi. Amheuthun, hefyd, yw'r cyfeiriadau aml a geir at ryw grefftwr neu'i gilydd, megis y Saer Coed a saerniodd y Cwpwrdd Tridarn, neu'r Cwpwrdd Deuddarn, neu'r Gist Styffylog, neu'r Coffr Addurnedig, a oedd yn y plasau gynt; enw y Saer Maen a adeiladodd rai o'r plasau neu rai o'r Seiri Pontydd a adeil- adodd bontydd dros afonydd ynghyda Seiri Melinau. Cynysg- aeddir ni â chyfeiriadau at Bandai, Melinau Gwynt neu Ddŵr, a hefyd at Ffatrioedd Gwlân mewn oes ddiweddarach. Ond gogoniant y dogfennau hyn yw'r Infentoriau, yn rhoddi manylion am yr eiddo, mewn da byw, yn wartheg, defaid, geifr, moch a chnydau fel rhug, llin, cywarch, gwenith, haidd, ceirch offer amaeth a hwsmonaeth dodrefn a thaclau ty; adeiladau, ystaf- elloedd, a phob math o drugareddau. Ac o gopio ewyllysiau ac infentorîau yr ysweiniaid a ddigwyddai fyw yn y plas hwn a'r plas arall, gellir olrhain datblygiadau yn null amaethu a dodrefn am bedair canrif o gyfnod a gwerthfawr iawn yw prisiau'r gwahanol nwyddau, cnydau, a stociau yn ystod cyfnodau lawer. Mewn llawer ohonynt, ceir gweled sut gymeriadau oedd rhai o'r plant-fe1 y gwasgarodd rhai y da a roddwyd iddynt; caredigrwydd y lleill at eu tad a'u mam y teimladau chwerwon a oedd yn bod rhwng perthnasau a chymdogion a'i gilydd. Ceir cyfeiriadau at y lifrai a wisgai'r yswain, y siwtiau melfed, eurog eu botymau yr hetiau pluog ac yn aml at yr arferion crafanglyd o chwanegu stad at stad trwy gyfrwng Gwaddol-