Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

fod dillad gŵr, neu'r wraig, yn cael eu cadw yn heirlooms am genedlaethau rhaid eu bod o stwff a lliwiau gwytnach nag y maent heddiw. Byddai enwau ffrindiau'r cymynnydd wrth odre'r ewyllys, yr ysgutorion, a'r ymddiriedolwyr, a rhes o dystion. Tabl faith o'r bobl y byddai arno ddyled iddynt, ac i hanesydd amaeth- yddiaeth y mae'r tablau hyn yn werthfawr, oherwydd rhoddant enwau'r bobl y byddai'n delio â hwynt yn ei fusnes, ac y maent yn taflu goleuni ar helynt porthmyn gynt. Ceir pob math a ffurf o Ewyllysiau, wedi eu hysgrifennu ymhob dull a modd, rhai'n feithion iawn, a rhai'n fyr a chwta. Cedwir rhai sydd yn faich i'w cario, megis honno i Hugh Jones o'r Ddôl, Corwen, a brofwyd ryw 240 mlynedd yn ôl, ac a gymerai 1,200 tudalen ffwlsgap teipiedig i'w chyflenwi yn null yr oes hon. (I'w barhau) Y MAE MWY NAG UN XI. CLEDWYN HUGHES (1) CLEDWYN Hughbs, g. 1916, yng Nghaergybi. Cyfreithiwr, a Dirprwy-Glarc Cyngor Caergybi; yr Ymgeisydd Llafur dros Sir Fôn. (2) CLEDWYN Hughes, Arthog, g. 1920, yn Llansantffraid- ym-Mechain. Awdur The Different Drummer, The Inn Closes jor Christmas, a nofel arall a gyhoeddir ar fyrder, Wennon. (3) CLEDWYN FLYNN HUGHES, g. 1921, yng Nghaernarfon. Darlithydd Cynorthwyol mewn Economeg yng Ngholeg y Brif- ysgol, Aberystwyth Athro Dosbarthiadau.