Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

UNESCO YM MEXICO GAN BEN BOWEN THOMAS I HIR a maith yw'r daith i brifddinas Mexico. Er hynny daeth y llwythau ynghyd iddi o'r rhan fwyaf o'r byd. Yma y maent bellach, megis tyrfa mewn Undeb neu Sasiwn neu Eisteddfod, yn ail gynhadledd Unesco, sef Cyfundrefh y Cenhedloedd Unedig i hyrwyddo cydweithrediad mewn Addysg, Gwyddoniaeth a Diwylliant. Y mae Unesco'n sumbol o'r ymdrech am gydweithrediad yn ein byd drylliedig. Ar yr wyneb, prin yw'r arwyddion o'r fath ymdrech, ond y mae amodau bywyd ein cenhedlaeth ni yn ein gorfodi i'w wneuthur ym myd Addysg, Gwyddoniaeth a Diwyll- iant. Y mae'r traddodiad o undeb a chydweithrediad yn hen a chryf yn y meysydd hyn, oherwydd dyledwyr i'w gilydd yw'r gwledydd erioed ym myd meddwl ac ysbryd. Geilw Unesco arnynt i dderbyn y ffaith ganolog hon. Ond y mae Unesco'n fwy na sumbol. Y mae'n offeryn ymarferol. Ar y fordaith i New York, ymddangosai'r Queen Elizabeth yn ddrych o'r hyn y gallai Unesco ei olygu i'n byd. Wrth weld maint, urddas a nerth y llong, sylweddolwn hefyd fod pob rhan ohoni'n cydweithio ac, wrth rwygo'i ffordd drwy'r cefnfor, fod bywyd yn ddiogel ynddi ac yn cyrchu'r porthladd a ddymunai. Tasg Unesco ydyw cydio grymusterau addysg, gwyddoniaeth a diwylliant y gwledydd wrth ei gilydd, ceisio'u hysgogi â'r un cymhellion, a'u cyfeirio at les uchaf dynion. Os gadewir hwy heb eu meithrin, neu'n gaeth i ofynion gwledydd unigol, neu ar chwâl heb gyfrifoldeb, y perygl fydd iddynt fethu gwasnaethu lles uchaf y ddynoliaeth, yn union fel petai'r Queen Elizabeth yn rhedeg yn wyllt ar y cefnfor, a throchioni'n ddi- lywodraeth ynddo, heb na chwmpas na chyfeiriad. Er cymaint y galw amdano, gwaith anodd yw llunio offeryn cydweithrediad rhwng gwledydd. Cyfundrefn o lywodraethau yw Unesco-un ar bymtheg ar hugain ohonynt, pedair arall yn gofyn am le eleni, ac amryw yn bresennol fel gwrandawyr. Cynrychiolwyr swyddogol yw aelodau'r gynhadledd. Ond yn eu mysg y mae arweinwyr sy'n hawlio'r rhyddid i wasgu ar eu Uywodraeth, ac