Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

MADDAU GAN DAVID THOMAS DARLLENAIS y stori brydferth hon­-stori wir-yn y Peace News ganol yr haf y llynedd. Yn Almaeneg y cyhoeddwyd hi gyntaf, ac yna'i chyfieithu i Esperanto, a'i chyhoeddi yn yr Heroldo de Esperanto. Cyfieithwyd hi wedyn o Esperanto i'r Saesneg, ac yn awr dyma'i hail-adrodd yn Gymraeg. Gwyn fyd na ellid ei chyhoeddi yn holl ieithoedd y byd. Tros chwarter canrif yn ôl, ym mis Mehefin 1922, llo?rudd- iwyd un o brif wladweinyddion yr Almaen, Walter Rathenau, Gweinidog Materion Tramor. Yr oedd Rathenau yn un o'r dynion cyhoeddus mwyaf goleuedig a rhyddfrydig yn yr Almaen, ac yn ymdrechu'n galed i arwain ei wlad i lwybrau heddwch a chydweithrediad â gwledydd eraill Ewrop. Pe buasai ef yn fyw, y mae'n bosibl na chawsai Hitler byth gyfle i godi ei ben. Tri o fechgyn ifainc Almaenig-Kern, Fischer, a Teschow-oedd ei lofruddion. Dihangodd y ddau gyntaf i gastell Almaenig, ac wedi eu hamgylchynu yno gan yr heddlu lladdasant eu hunain. Rhoddwyd Teschow yn garcharor yn nwylo'r heddlu gan ei deulu ei hun fe'i cafwyd yn euog, a'i draddodi i garchar. Pan glywodd mam Rathenau am hyn, anfonodd lythyr at fam Teschow, llofrudd ei mab, yn ei thrallod. Y mae fy nghydymdeimlad â chwi," meddai, yn fwy nag y gallaf ei draethu, ac estynnaf fy llaw mewn tosturi i chwi, yr anhapusaf o'r holl famau. Dywedwch wrth eich mab fy mod yn maddau iddo, ac yn gobeithio y maddeua Duw iddo. Cyffesed ei fai gerbron ei farnwr ar y ddaear, ac edifarhau ger- bron ei Farnwr yn y nef. Petasai wedi adnabod fy mab yn iawn, y rhagoraf o feibion dynion, buasai'n haws ganddo droi ei arf yn ei erbyn ei hun nag yn ei erbyn ef." Wedi i Teschow fod yngharchar am bum mlynedd, fe'i rhydd- hawyd am ymddwyn yn dda, ac ni wyddai neb ddim mwy o' hanes. Aeth blynyddoedd heibio, ac anghofiodd pawb am y gŵr ifanc y bu ei enw unwaith ar dudalen blaen holl bapurau newydd y byd. Ac yna digwyddodd rhywbeth yn Affrica na fuasai awdur y nofel fwyaf cyffrous wedi ei ddychmygu.