Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AWYRGYLCH MEWN BARDDONIAETH GAN JONAH WYN WILLIAMS Y MAE i bob darn o farddoniaeth ryw nodwedd arbennig, ac arbenigrwydd rhai cerddi yw eu gallu i greu awyrgylch. Cymerer yr hen bennill telyn a ganlyn, er enghraifft Mi af oddi yma i'r Hafod Lom, Er bod hi'n drom o siwrne, Mi gaf yno ganu cainc Ac eiste ar fainc y simdde, Ac ond odid dyna'r fan Y byddaf tan y bore. Ei harbenigrwydd yw'r awyrgylch sydd yn y gân-rhyw awyrgylch cartrefol hyfryd. Dyna paham y mae'n gafael ynom wrth ei chlywed. Nid oes i'r gân odidowgrwydd crefft, megis mewn cywydd, ond serch hynny y mae'n gafael ynom bob tro. Ceir yr awyrgylch cartrefol hwn mewn llawer o'r hen benillion telyn. Beth sy'n cyfrif am yr awyrgylch hwn ? Yn un peth, llyfnder a naturioldeb y canu-nid oes ôl ymdrech arno. Y mae mor naturiol nes bod bron yn annaturiol o naturiol Ond y mae yma grefftwaith hefyd. Os myn neb amau hyn, aed ati a cheisio ail-greu'r awyrgylch hwn mewn pennill telyn newydd, ac fe wêl mor anodd ydyw. Ceir yr awyrgylch cartrefol hwn gydag awyrgylch o ddir- gelwch weithiau, megis yn y pennill hwn Mi fûm yn gweini tymor Yn ymyl Tyn y Coed, A dyna'r lle difyrraf Y bûm i ynddo 'rioed Yr adar bach yn tiwnio, A'r coed yn suo 'nghyd, Fy nghalon fach a dorrodd Er gwaetha'r rhain i gyd. Onid oes rhyw ddirgelwch trist yn y pennill Ni wyddom pam y torrodd calon y bardd, ond gallwn synhwyro i ryw drasiedi ddigwydd yn ei fywyd. Sylwer ar rym y ddwy Uinel olaf, o'u