Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

RHAGLEN UNESCO YN 4948 GAN GWILYM DAVIES CYCHWYNNODD Unesco ar ei hail flwyddyn yn yr Ail Gynhadledd, a agorwyd fore Dydd Iau, Tachwedd 6, 1947, yn y Belles Artes Theatre, yn Ninas Mexico. Cynhaliwyd y seremoni agoriadol ym mhresenoldeb Arlywydd y Weriniaeth, Sr. Miguel Aleman, a rhoddwyd croeso brwdfrydig i Unesco gan Lywodraeth Mexico, a'i phobl. Cafwyd rhai pethau newydd yn y gynhadledd. Rhoddwyd sylw arbennig i'r Gyllideb, a phenderfynwyd codi incwm Unesco am y flwyddyn o chwe miliwn o ddoleri i wyth miliwn (oddeutu l,000,000p), ychydig mwy na chost un wiblong ysgafn, fel y sylwodd rhywun. Yn y Gynhadledd Gyntaf, ym Mharis, yn Nhachwedd 1946, etholwyd holl aelodau'r Pwyllgor Gweithiol mewn eisteddiad dirgel, ac ni ollyngwyd neb i mewn i'r ystafell ond y cynrychiolwyr yn unig. Yn Ninas Mexico cytunwyd yn unfrydol fod yr eisteddiad i fod yn un agored. Ail-etholwyd rhai o'r hen aelodau, ac yn eu plith yr oedd Syr John Maud, cynrych- iolydd Prydain etholwyd ef ar ben y rhestr, ac yr oedd yn haeddu hynny. Cynigiwyd merch y tro hwn am y tro cyntaf cynrychiolydd Ynysoedd y Phillippines oedd honno, ond nid etholwyd mohoni. Cynyddu yn gyson a wna rhif aelodau Unesco. 30 o wledydd a gynrychiolwyd ym Mharis, a 36 ym Mexico. Derbyniwyd yr Yswistir, Awstria, yr Eidal, a Hwngari, yn aelodau newyddion, a dyna'r rhif yn mynd i fyny i ddeugain. Cynigiodd y Pwyllgor wahodd Llywodraeth Weriniaethol Sbaen i anfon cynrychiolwyr yn answyddogol. ADOLYGU GWAITH 1947.-Cyflwynodd y Cyfarwyddwr, Dr. Julian Huxley, Adroddiad gwych o 95 tudalen, yn adolygu gwaith Unesco yn ystod y flwyddyn. Dywedodd fod cychwyn da wedi ei wneuthur ymhob rhan bron o feysydd eang addysg, a gwyddor, a diwylliant cydwladol. Yn y drafodaeth gyffredinol, amheuai rhai tybed a oedd Unesco, yn ei blwyddyn gyntaf, wedi taenu ei hadnoddau yn rhy denau dros ormod o dir." Cafwyd beirniadaeth arbennig gan Ddirprwyaeth New Zealand,