Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

EDWARD LLWYD GAN J. E. CAERWYN WILLIAMS Y MAE'N nodweddiadol o goffadwriaeth Edward Llwyd (1660- 1709) yn ei wlad ei hun fod y gyfrol, Life and Letters of Edward Lhwyd* heb gael odid ddim sylwynywasg Gymraeg, er ei bod wedi ei chyhoeddi ers dros ddwy flynedd. Wrth gyflwyno'r gyfrol hon, y bedwaredd ar ddeg yn y gyfres, Early Science in Oxford, dywaid y golygydd, Dr. R. T. Gunther, na chafodd Llwyd hyd yn ddiweddar y parch a haeddodd fel gwyddonydd gan ei brifysgol ei hun gallasai chwanegu mai yn gymharol ddiweddar y dechreuwyd ei werthfawrogi gan ei genedl ei hun, ac nas gwerthfawrogir ef yn iawn hyd yn oed heddiw, oblegid ceir beirdd digon tila yn uwch eu bri nag ef gennym ni'r Cymry. Ond bellach nid oes esgus i neb beidio â sylweddoli bod Llwyd yn un o brif ysgolheigion ei oes, ac ymhlith yr ysgolheigion mwyaf a gododd Cymru erioed, ac y mae pawb cymwys i farnu yn barod i gydnabod ei bod yn drychineb na werthfawrogwyd ei waith ieithegol yn gynt, ac nas cariwyd efymlaentany cyfnod diweddar. Gorfu i'r genedl aros hyd ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg cyn cael ieithydd o'r un rhuddin â Llwyd, a phan gafwyd ef ym mherson Syr John Rhys, gwelodd hwnnw ar unwaith ogoniant ei ragflaenydd. Nid rhyfedd iddo ddywedyd Pe cerddasai Ieitheg Geltaidd yn llwybrau Edward Llwyd, yn hytrach nag yn llwybrau'r fath ddynion â Dr. Pughe a'r Cyrnol Vallancy, buasai erbyn hyn wedi cyrraedd tir uwch o lawer nag y gwnaeth, ac ni buasai ysgolheigion brodorol wedi gadael lle i Zeuss, a'r Ellmyn eraill a'i dilynodd yn yr un maes o astudiaeth, ymddangos fel sêr gwib." Onid oes cryn eironi yn y ffaith nad yw Llwyd hyd yn oed eto wedi cael gan ysgolheigion y Cyfandir y lle a haedda yn hanes efrydiau ieithegol ? Yn gyfírodin, olrhcinir y syniad fod iaith yn datblygu i lyfr Herder, Uber den Ursprung der Sprachet a gyhoeddwyd yn 1772. Yn y llyfr hwnnw, profodd Herder nad rhodd barod o law Duw i ddyn ydoedd iaith, eithr yn hytrach arf a ddatblygodd meddwl dyn drosto'i hun. "Os yw'n anam- *Printed for the Subscribers. Gwasg Rhydychen, 1945. Pris 42/