Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Fe sylwir mai arfer ysgolheigion Cymraeg yw sgrifennu Lhuyd, gan ddilyn y sillafiad yn y Glossography. Dewisodd Gunther y sillafiad Lhwyd, gan mai felly y llofnodir y llythyrau i gyd ag eithrio un, ar ôl iddo ymwadu â'r ffurf Lloyd. Y mae hyn yn siŵr o arwain i amryfusedd. Gan fod arfer Llwyd ei hun yn amrywio, tybed na ddylid dilyn y sillafiad Cymraeg arferol wrth ysgrifennu amdano yn Gymraeg ? RHAI O AWDURON Y RHIFYN IVOR E. DAVIES—Hynanaethydd; aelod o Ddosbarth Pen- maenmawr. FRANK PRICE JONES—Athro Dosbarthiadau Tu Allan ar Stanff Coleg y Brifysgol, Bangor. J. T. JONES—Prifathro Ysgol Fodern Porthmadog awdur Y Llanc o Sir Amwythig, Dirgelwch y Ffilm, etc. Y PARCH. T. ELLIS JONES—Is-Brifathro Coleg y Bedyddwyr, ac Athro yn yr Ysgol Ddiwinyddol, Bangor. Y PARCH. WILLIAM Morris, Caernarfon-Bardd Cadair Genedlaethol 1934 awdur Clychau Gwynedd, a Chaniadau Eraill; golygydd Y Drysorfa. r EMRYS Williams — Athro mewn Peirianyddiaeth Drydan yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor. J. ELLIS CAERWYN WILLIAMS—Darlithydd mewn Cymraeg yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor. Y PARCH. J. H. WILLIAMS—Rheithor Llanberis; Athro D osbarthiadau. JONAH WYN WILLIAMS—Aelod o Ddosbarth Glan Pwll, Blaenau Ffestiniog. Camgymeriad cyffredin yng Nghymru ydyw ysgrifennu Glamorganshire neu Merionethshire. Ni bydd neb byth yn ysgrifennu Angleseyshire, neu Cornwallshire, neu Kentshire. Yr unig adeg y bydd eisiau rhoddi shire ar ddiwedd enw sir ydyw pan fo tref a sir o'r un enw, megis Tref Gaernarfon a Sir Gaern- .arfon. Glamorgan a Merioneth ydyw'r enwau iawn ar y ddwy sir Jiynny.