Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

RHOWCH DRO AM Y COLEG GAN FRANK PRICE JONES YMHEN ychydig amser wedi cyhoeddi'r rhifyn hwn o LLEUFER bydd llawer o'i ddarllenwyr yn ymweld â Choleg y Gogledd i gynrychioli eu dosbarthiadau yng Nghyfarfod Blynyddol y WEA ac Adran Allanol y Coleg. Dyna'r rheswm, neu'r esgus, dros gyhoeddi'r ysgrif fechan hon. Gair yn gyntaf ar hanes Coleg y Gogledd. Fe'i sefydlwyd yn 1884 yn unol ag argymhellion Comisiwn Aberdâr ar Addysg Ganolraddol ac Uwchraddol yng Nghymru. Pum deg ac wyth ydoedd rhif y myfyrwyr pan agorwyd y coleg, ond diddorol ydyw sylwi i 688 o bobl fynychu Darlithiau Cyhoeddus a dra- ddodwyd yn y Sesiwn cyntaf. Yn y Penrhyn Arms Hotel yr ymgartrefodd y coleg gyntaf, hen westy enwog ar y Ffordd Bost i Gaergybi y mesurid y mill- tiroedd i Fangor ohono. Bu'r hen westy'n gartref i'r Coleg am yn agos i ddeng mlynedd ar hugain, a bu'r adrannau gwydd- onol yno am bymtheng mlynedd wedi hynny. Erbyn heddiw, fodd bynnag, nid oes ond ffrâm drws ffrynt yr hen gartref yn aros fe'i gwelwch ar yr ochr dde wrth adael Bangor ar y ffordd i Landygái. Tua dechrau'r ganrif newydd, sylweddolwyd nad oedd yr hen adeiladau nac yn addas nac yn ddigonol i waith y Coleg- yr oedd rhif y myfyrwyr yn 320 erbyn 1901-a dechreuwyd chwilio am gartref parhaus iddo. Soniwyd am nifer o drefi eraill fel mannau addas a chyfleus i symud y Coleg iddynt, ond enillodd Dinas Bangor y dydd pan gynigiodd Cyngor y Ddinas Barc yr Esgob yn rhodd i Lys y Coleg. Cafwyd Deddf arbennig drwy'r Senedd yn 1903 i ganiatáu hyn, ac amcan-gyfrifir bod y rhodd hon yn werth 15,000p yr adeg honno. Yma felly y codwyd y Coleg newydd. Ond dechrau'r gân hon oedd y geiniog, a phenodwyd Llew Tegid, prifathro Ysgol y Garth ar y pryd, yn brif drefnydd a chasglydd i'r Gronfa Adeiladu. Nid oes gennyf ofod i fanylu ar y rhoddion,. ond trwy gyfraniadau mawr a mân casglwyd 120,000p. Gyda'r arian hyn y codwyd y Coleg y bydd llawer