Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ystafelloedd ymgynnull y myfyrwyr, ac wrth eu pen, ar y llawr uchaf oll, ystafelloedd rhai o'r athrawon. Yn y Neuadd Bowys y cynhelir ein cyfarfod ni, y mae'n debyg. Dyma Neuadd a gyflwynwyd i goffadwriaeth Arglwydd Powys, Llywydd cyntaf y Coleg. Ni fyddwch fawr o dro'n dringo o'r fan hyn i'r ystafell fwyta, a phan gyrhaeddoch yno, cofiwch sylwi ar y casgliad o ddarluniau sydd ar y muriau. Dywedais gynnau mai i fod yn Amgueddfa y bwriadwyd yr ystafell a adweinir bellach fel y Llyfrgell Isaf. Oherwydd cynnydd yn rhif y llyfrau a'r myfyrwyr, bu raid troi'r Amgueddfa yn rhan o'r llyfrgell. Bu cynnwys yr Amgueddfa'n crwydro'n wael ei ffawd nes sicrhau hen Ysgol Sir y Genethod gerllaw'r Coleg yn gartref iddi, ryw ddeuddeng mlynedd yn ôl. Dylech ymweld â hon ar bob cyfrif, ac os byddwch mor ffodus ag y bûm i yn cael un fel yr Athro Tom Parry i adrodd hanes rhai o'r pethau a ddangosir yno, cewch brynhawn i'w gofio Yma eto, ni chaf gyfle i fanylu, ond gofalwch chwilio am goes glec a wnaed gan Owen Grinith, Tryfan. Y mae cangen arall o'r Amgueddfa yn adeilad yr Adran Amaethyddol casgliad o hen gelfi ffarm yw hon, o dan ofal Dr. R. Alun Roberts. Ond efallai y daw cyfle eto i sôn yn Lleufer am yr Amgueddfa hon. Yn bennaf oll, cofiwch mai gwerin Cymru a gododd y Coleg y mae'n adeilad i ymfalchïo ynddo. Nid yng ngwybodaeth y dyn cyffredin y mae nerth gwerin- lywodraeth, ond yn ei farn-ei synnwyr cyffredin y gelwir ef weithiau. — Alfred E. Zimmern. Y mae gwerin-lywodraeth yn llythrennol amhosibl heb y ffydd fod y daioni sydd mewn dynion yn llawer cryfach, at ei gilydd, na'r drygioni sydd ynddynt.-David E. Lilienthal. Pe gallai'r meddwl bach fesur y meddwl mawr megis y bydd dwy-droedfedd yn mesur puramid, yna fe fyddai gwerin- lywodraeth yn llwyddiant bythol ond fel y mae-hi, y mae'r ffurf orau ar lywodraeth heb ei darganfod eto.-Bernard Shaw. CYWIRO.­it. 24, 11. 7, darllener cynhyrchir hanner ein braster t. 33, 11. 4, darllener 1635 yn lle 1735.