Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

RWANBAÁTH Y GOGLEDD GAN C. E. THOMAS T> YDDAI'N dda gennyf pe gallwn gofnodi'r cwbl o'r digwydd- iadau yn hanes y WEA yn y Rhanbarth o chwarter i chwarter. Ond rhaid bodloni ar damaid yma ac acw. Nid oes dim yn llwyddo fel llwyddiant. Rhydwyn wedi clywed am lwyddiant Llanfaethlu -y dosbarth y soniais amdano yn Rhifyn y Gwanwyn — Llanrhyddlad wedyn yn anfodlon bod yn ôl o fwynhau'r un breintiau drwy gael dosbarth WEA iddynt eu hunain. Y Canghennau.-Bydd llwyddiant cangen weithgar yn cer- dded o'i blaen. Llwyddodd Llifon i dorri'r argae yn Llanfach- raeth, a llifodd y newyddion da i bob cyfeiriad. Cangen Rhos- fair, ar ôl ennill Dwyran, yn awr yn troi at Fodorgan y mae sŵn deffro ac ymysgwyd mewn llawer ardal yn Sir Fôn. Canghennau Treffynon a Phrestatyn hwythau yn parhau i ennill tir. Treffynnon wedi trefnu darlith ar yr Iron Cur- tain" gan Moses J. Jones, Is-Gyfarwyddwr Addysg Sir Fflint,. ar brynhawn Sadwrn eu Cyfarfod Blynyddol, a dadl yn y nos, â rhai o aelodau'r dosbarthiadau yn brif siaradwyr. Cangen Prestatyn wedi trefnu W EA Open Forum at y gwanwyn a'r haf, a fydd yn agored i bawb. Trefnodd Cangen Llandudno Brains Trust, ac athrawon y gwahanol ddosbarthiadau'n darparu'r "Brains." Trefnodd Cangen Glannau Dwyryd, Sir Fflint, dair dadl rhwng y dosbarth- iadau arbynciau'rdydd. Trefnodd canghennau eraill Ysgolion Un- dydd ar gwestiynau'r awr, megis y Ddeddf Iechyd newydd cafwyd rhai hefyd yn y Rhyl ac yng Nghwm-y-Glo. Cynhal- iwyd rhai ar bynciau eraill yn Shotton, Dyffryn Conwy, Caergeiliog, Bethesda, a Biwmares. Byddai'n beth ardderchog petai pob cangen yn trefnu un neu ddwy o Ysgolion Undydd,. a nifer o ddarlithiau arbennig-eu trefnu ar ddechrau'r tymor, a'u cyhoeddi ar gerdyn. Penderfynodd Pwyllgor Meirion o'r WEA gynnig gwobr o 25p yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nolgellau, 1949, am