Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

RHANBARTH Y DE GAN D. T. GUY Rhoddion y Colegau i'r Rhanbarth.-Bu'r WEA a Chydbwyll- gorau'r ddau goleg yng Nghaerdydd ac Abertawe ar delerau da â'i gilydd bob amser, ac amlygwyd hynny eleni yn fwy nag erioed. Bydd ein darllenwyr yn falch o glywed bod y ddau Gydbwyllgor wedi cyfrannu o leiaf ganpunt bob un tuag at dalu costau'r WEA yn ystod y tymor a aeth heibio. Y mae'r eydymdeimlad hwn a ddangoswyd â ni yn ein hanawsterau yn profi'n glir fod y Colegau'n gwerthfawrogi cyfraniad mawr y WEA at feithrin Addysg Pobl mewn Oed yn y Rhanbarth. Dyma'r tro cyntaf i'r Colegau yn Neheudir Cymru roddi grantiau fel hyn i helpu'r WEA. Rhaid inni ddiolch yn gynnes i Fwrdd Estyniad y Brifysgol am ei gynhorthwy yn y trafodaethau a arweiniodd i hyn. Ysgolion Haf Dibreswyl Coleg Hαrlec/­-Cynhaliwyd Ysgol Haf Ddibreswyl gyntaf Coleg Harlech y tymor hwn yn yr Ysgol Ramadeg, Treharris, yr wythnos ,a ddechreuodd Ebrill 5. Euan John, o Adran Cydberthynas y Gwledydd, Coleg Aberystwyth Huw Morris Jones, o Goleg Bangor C. Chegwidden, Aber Dâr a'r Parch. H. J. Flowers, Abertawe, oedd y darlithwyr. Trefn- wyd Ysgolion eraill ym Mhort Talbot, Castell Nedd, a Llanelli, a daeth nifer o geisiadau o leoedd eraill. Y mae llwyddiant yr Ysgolion hyn yn dangos yn glir beth i'w ddisgwyl pan fo Coleg Harlech, Colegau'r Brifysgol, y Pwyllgorau Addysg, a Chang- hennau'r WEA yn cydweithio mewn cytgord â'i gilydd. Myfyrwyr o'r Almaen yn y De.-Ymwelodd cwmni o Athrawon o'r Almaen â Deheudir Cymru am rai wythnosau, ar wahoddiad y Cyngor Prydeinig. Gwahoddwyd fi i roddi anerchiad iddynt ar waith y WEA. Yr argraff a adawyd arnaf oedd mai un o'u prif anawsterau ynglyn âg Addysg Pobl mewn Oed yn yr Almaen- ar wahân i brinder ystafelloedd, etc., ydyw symud y ddrwg* dybiaeth sydd yn bod rhwng Athrawon y Prifysgolion ac ar- weinwyr yr Undebau Llafur. Dylem wneud pob peth a allom i'w helpu yn y peth hwn, drwy eu dwyn i ymgydnabod â'n gwaith ni ym Mhrydain.