Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLYFRAU NEWYDDION Adar Rhiannon, a Cherddi Eraill, gan William Jones. Gwas g Gee. 4/ Gwyddwn yn dda am Y Llanc Ifanc o Lyn flynyddoedd cyn adnabod y Parch. William Jones, Tremadog, yn y cnawd ac mewn siop lyfrau yng Nghaernarfon y gwelais i'r bardd gyntaf. Diolch i'r cyfaill llednais am gasglu ei ganeuon fel hyn at ei gilydd. I dymhorau natur y cân, i flodau ac adar, ac i fynyddoedd, heb anghofio dynion hwythau. Ond ar wahân i'r beirdd, a rhai hen ffrindiau, ac ambell broffwyd fel Thomas Rees, ffolineb dynion sy'n blino fwyaf ar y bardd. Am eu ffolineb y sgwrsia'r coed â'i gilydd. Gwelir y taclau digywilydd mewn ocsiwn. Od i Dduw greu dyn i rwygo'i gread gwych yn racs, a hysio'i Fab mewn sbort a sbri, Ac wedi cyrraedd crib y copa llwm Ei grogi'n swta'n wobor am ei boen." Mewn natur y mae diddanwch y bardd. Ceir ef weithiau'n cydymdeimlo Â'r griafolen annwyl Sy'n gwaedu yn y gwynt y rhosyn peraroglus yntau dan ddyrnod y gogleddwynt, A heno nid oes ond ysgerbwd 0 rosyn yng ngolau'r Uoer." Dyna rywbeth yn null hwnnw gynt a gydymdeimlodd â deilen Hydref: Hi hen, eleni ganed." Y gawod eira sy'n dweud wrth y bardd p'run o'r ddau Foelwyn yw'r Mawr. A pheth yw pyramidiau Rameses wrth y Cnicht a moelni hardd Cwm Croesor ? Cefais lawer o hyfrydwch wrth ddilyn y bardd o Ie i Ie fel hyn. Yn wir, y mae mesur helaeth o'r un moelni hardd yn ei delynegion hefyd. Y mae'n amlwg fod eu hawdur yn ed- mygwr o Housman a Hardy. Y mae'n hoff iawn hefyd o hen chwedlau ei wlad ei hun. Pethau syml a chynnil yw ei gerddi, yn llawn miwsig, ac ambell ffansi annisgwyl yma ac acw yn gwneud eu darllen yn bleser o'r iawn ryw. Nid oes yma gymaint ag un gerdd mewn vers libre. Y mae'r sonedau hefyd wedi eu gwau'n ofalus ac yn goeth. Ni adodd y bardd i ddim rhwydd