Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

nac ystrydebol lithro rhwng ei fysedd, ac nid oes yn y caneuon ddim afrwydd chwaith gan mor gelfydd yw'r gwead. Fe ddyw- aid nad yw ef na diwygiwr na phwyllgorwr. Arall yw ei ddawn, a'i gysur wrth feddwl am wynebu'r Barnwr yw mai Bardd yw Yntau Yn medru trin y tannau A llunio llawer cainc." Fe roes darllen y ceinciau hyn lawer o foddhad hefyd i minnau. Y mae'r argraffwaith ar y gyfrol yn glir a glân ond gresyn na roddwyd rhestr o Gynnwys y cerddi ar y cychwyn, neu ar y diwedd, er hwylustod y darllenydd. Tro ar Fyd, gan Edwin Stanley James. Gwasg y Brvthon. 3/6. Yn Nosbarthiadau'r WEA y cafodd Mr. James symbyl- iad i brydyddu. A chofio iddo gael ei eni a'i fagu yn Llundain, y mae gratn go dda ar ei Gymraeg. Fe gymer lawer o ddiddor- deb yn y gynghanedd, ac wedi ymberffeithio mwy yn ei grefft diau y cawn ganddo ganeuon mwy gorffenedig na'r rhain. Ifanc ydyw yn y gwaith, a dymunwn iddo bob llwyddiant. WILLIAM MORRIS Sylfaenwyr y Ffydd yng Nghymru, gan Anita Tregarneth. Gwasg y Brython. 10/6. Dyma lyfr dwy-ieithog (gyda'r trosiad Cymraeg gan John Pierce), yn cynnwys n'fer o ddarluniau da o waith yr awdures ei hun. Yr adwaith cyntaf a brofir wrth afael ynddo yw ei fod yn llyfr deniadol a cheir yr un adwaith wrth ei ddarllen. Wrth ei drin, fe ddaw awydd am ei gymharu â'r llyfrau dwy-ieithog a gafwyd o Wasg Prifysgol Cymru i ddathlu cof enwogion fel Hywel Dda, Gruffydd Jones, a Daniel Owen, ac i nodi pedwar- canmlwydd y Beibl Cymraeg. Ni ellir ei gymharu â'r Gyfres honno o ran manyldra dysg a chyfanrwydd triniaeth, a'r unig gyfatebiaeth yw ei fod yn ddwy-ieithog. Ond yn ei ddosbarth ei hun, er hynny, fe gymer ei Ie gydag anrhydedd. Rhaid cofio mai gwaith byr ydyw-llyfryn yn hytrach na llyfr. Pe cyhoedd- esid ef yn uniaith (Cymraeg neu Saesneg), ni fyddai ynddo ond rhyw 75 o dudalennau.