Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Llawlyfr Beiblaidd, gan Oswald R. Davies. Gwasg y Brython. 7 /6. Ni ellir yn gyfreithlon ofyn i unrhyw awdur wneuthur mwy na chyrraedd y nod a esyd o'i flaen yn Rhagair ei lyfr. Nod y Parch. Oswald R. Davies yn y llyfr hwn ydyw gwneuthur Ymgais i gyfarfod â'r angen ymhlith athrawon yr Ysgolion Dydd a'r Ysgolion Sul am arweiniad hylaw i ddarllen a dysgu'r Beibl," a thystiwn iddo gyrraedd ei amcan yn dra chanmol- adwy. Yr oedd angen mawr arnom am gyfrol Gymraeg a'n cynorthwyai i weled patrwm y Beibl i gyd fel datblygiad cyson y cymer pob llyfr unigol ei Ie ynddo." Ein perygl erioed fel cenedl fu bodloni ar lawer llai na chael golwg ar lyfrau'r Beibl fel unedau cyfan, heb sôn am fynnu gweld yr holl Feibl yn ei gyfanrwydd, a Ue priod pob llyfr ynddo. Crefydd adnodau fu crefydd Cymru, a chredid y gellid penderfynu pob cwest- iwn dim ond dyfynnu adnod ar y pwnc, a hynny heb dalu dim sylw i gysylltiadau'r adnod, na'i gweld yng ngoleuni ei chefn- dir priodol. Wrth ein hargyhoeddi fod yn rhaid cael golwg ar y Beibl i gyd cyn y gallwn sylweddoli gwerth y llyfrau unig- ol," ac wrth roddi inni yn fyr a chryno gynnwys y gwahanol lyfrau, gwnaeth yr awdur wasanaeth clodwiw i'n cenedl. Rhydd inni fraslun o holl lyfrau'r ddau Destament yn nwy ran gyntaf y llyfr, ac yn ei benodau olaf â dros ben y ffin a os- ododd iddo'i hun yn ei ragair, ac edrydd ffeithiau rhawd yr efengyl yn y byd, gan ei gyfyngu ei hunan yn y bennod olaf i hanes crefydd yng Nghymru. Teimlwn y gallasai'r awdur fod wedi hepgor y penodau hyn, a rhoddi inni, yn ôl llaw, gyfrol arall ar y maes hwn a wnâi fwy o degwch â'r pwnc. 0 wneuthur hynny gallasai fod wedi sgrifennu'n llawnach ar gyn- nwys yr Ysgrythurau. Y mae'r canfas mor fawrfelnad oeddgob- aith iddo fedru gwneuthur tegwch â phob llyfr, a gorfydd arno fodloni ar ddelio'n bur swta â llawer adran bwysig o'r Beibl. Teimlwn hefyd fod cryn anghyfartaledd mewn mannau. Rhodd- ir mwy o Ie i Lyfr Esther, er enghraifft, nag i broffwydoliaethau Eseia Jerusalem, a chaiff Habacwc lawn cymaint o'r gofod â Jeremeia. Eithr llwyddodd yr awdur yn wyrthiol, a chofio iddo sgrifennu ar yr holl lyfrau o Genesis i'r Datguddiad mewn cwmpas mor fach. Bydd y gyfrol o fendith fawr i'r rhai y bwr- iadodd yr awdur eu gwasnaethu. Hyderwn y cawn yn ein