Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

hiaith ein hunain cyn hir amryw gyfrolau'n delio'n llwyrach â'r pynciau na allodd awdur y gyfrol hon wneud prin fwy na'u -cyffwrdd. Cymeradwywn y llyfr yn galonnog iawn. T. ELLIS JONES Benedict Gymro, gan Louis Olav Leroy. Llyfrau'r Dryw. 3/6. Iseldirwr ieuanc ydyw'r awdur, a ddaeth i Gymru am dymor byr, ac a ddychwelodd i'w wlad erbyn hyn, wedi dysgu Cym- raeg yn rhyfeddol o dda, mor dda ag i godi cywilydd ar filoedd o Gymry sydd â'r Gymraeg yn iaith briod iddynt. Ymgorff- oriad o'r Arglwydd Iesu yw Benedict Gymro, wedi dyfod i Ogledd Cymru i ddysgu a iacháu, am dymor o ryw dair blynedd, gan ddechrau yn Nant Peris. Siomedig iawn yw'r stori. Nid yw fawr mwy na stori'r Testament Newydd wedi ei Chymreigio, gan roi enwau Cymraeg i leoedd a phersonau. Y mae'n anhygoel y buasai ymateb yr Arglwydd i broblemau bywyd yn^yr oes wyddonol hon, â'i gwyrthiau ym myd meddyginiaeth, yn union yr un fath ag ym Mhalestina gynt, dan amgylchiadau mor gwbl wahanol. Dyma'r stori a fuasai â gafael ynddi-ei bortreadu Ef yn byw ein bywyd ni heddiw, fel y bu iddo fyw bywyd yr oes yr ymddangosodd ynddi gynt. Yr un fuasai ei egwyddorion, wrth gwrs, ond buasai ei ddull o feddwl ac o gymhwyso'r eg- wyddorion yn gwbl wahanol. Symudai'r Arglwydd yn natur- iol ar wyneb y ddaear. Symud fel actor ar lwyfan y mae Ben- edict. Fel enghraifft o ddigrifwch y peth, y mae pobl Caer- narfon am ei wneud yn frenin, yr union peth a fynnai rhai Idd- ewon gynt. Wel, nid yw hyd yn oed y Blaid Genedlaethol heddiw yn gofyn ond am statws dominiwn." Y mae'r awdur wedi dysgu darllen ein hiaith yn gampus, ond nid yw eto wedi dysgu ein darllen ni. Tybed, a glywodd ef rywdro mai cenedl grefyddlyd oeddym, a thybio ohono y buasai'r math hwn o stori o'r herwydd yn ein boddhau ? Croes- awn yn galonnog stori arall ganddo y bydd wedi chwysu tipyn mwy uwch ei phen. E. TEGLA DAVIES