Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Corlan Twsog, a storïau eraill, gan Alun T. Lewis. Gwasg Gee. 4/ Wele chwanegiad diddorol at lenyddiaeth y stori fer yng Nghymru-chwanegiad a ddichon hybu datblygiad cyfoes y gangen hon o gelfyddyd trwy beri i'n storîwyr ganfod yn glir unwaith eto beth yw prif hanfodion eu crefft. Y mae pob un o'r cyfansoddiadau hyn yn adrodd stori, ac nid oes le i amau nad cyfleu'r stori oedd pennaf amcan yr awdur bob tro. Ni cheir yma chwaith yr anwybyddu poenus hwnnw ar ffurf a phatrwm sy'n nodweddu storïau byrion rhai o ddilynwyr Chekov a Katherine Mansfield yng Nghymru. Dichon nad Corlan Twsog (y stori a enwir yn y teitl) yw'r enghraifft orau yn y llyfr o gelfyddyd y stori fer." I'm tyb i y mae'n rhy debyg i nofel wedi ei "berwi i lawr neu hanes hir wedi ei dalfyrru. Felly, hefyd, i raddau, y stori Symud ymlaen." Ni chrisialwyd y deunydd yn ddigon trylwyr i gyn- hyrchu'r teip perffeithiaf o unoliaeth gelfyddydol. Ac onid yw un neu ddwy o'r storiau yn diweddu mewn dull sydd braidd yn or-drawiadol ? Er nad oes yn storïau Mr. Lewis ddim byd eithriadol newydd, y maent yn dra amrywiol o ran deunydd yn ogystal ag o ran fformiwlâu eu gwneuthuriad. At hynny, y mae'r awdur, fel ysgrifennwr rhyddiaith, yn berchen arddull sy'n addas i'w bwrpas ac ni theimlir yn unman ei fod wedi disgyn i lefel ll6 y mae'n peidio â bod yn artist llenyddol. Yr Hen Foi, comedi, gan David Roberts. Gwasg Gee. 2/6. JFel chwanegiad at ein stoc brin o gomedïau addas i'w def- nyddio gan gwmniau amateur, ar lwyfannau gweddol helaeth, gellir croesawu'r gomedi newydd hon yn ddibetrus. Drama bedair act ydyw, heb fod yn rhy faith, ac ynddi ddwsin o gymeriadau --chwech o ferched a chwech o ddynion. I actio'r gwaith yn y Gogledd byddai angen newid peth ar y dafodiaith; a da fyddai newid ambell ymadrodd arall yma ac acw, e.e., "fflatro i Elisa- beth," t. 33 (gwell fyddai gwenhieithio i Elisabeth)," a cyfyng gyngor," t. 35 (gwell fyddai cyfrin gyngor)." Diau y gellid Uwyfannu'r gomedi hon heb fawr drafferth na chost, a byddai'n ddifyrrach i'w gweled ar lwyfan nag ydyw hyd yn oed i'w darllen yn y llyfr. J. T. JONES