Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

mae honno yn awr mewn bod, ac yn tyfu. Bu Dr. Peate wedi hynny ar daith yng ngwledydd Llychlyn yn gweld yr Amguedd- feydd Gwerin yno, ac yn y llyfr hwn rhydd ddisgrifiad ohonynt, a braslun o hanes y mudiad i gael un yng Nghymru, disgrifiad hefyd o Sain Ffagan, ac o'i gynlluniau ar gyfer ei datblygu. Y mae yma gryn nifer o luniau da a diddorol dros ben o gynnwys Amgueddfeydd Gwerin yn Sweden a Norwy a Denmarc, ac o Sain Ffagan ei hun. Dylai pob un o ddarllenwyr LLEUFEB feddu copi o'r llyfr hwn. Pamffled i'w ledaenu i wneud gwaith propaganda dros y Blaid Lafur yn yr ardaloedd gwledig ydyw'r llyfryn arall, pam- ffledyn byr o ran y gwaith darllen sydd ynddo, ond fe'i haddurnir â nifer o luniau deniadol iawn o gefn gwlad Cymru. Disgrifir y newid mawr er gwell a ddaeth i'r parthau gwledig yn y blyn- yddoedd diweddar, a'r hyn y bwriada'r Llywodraeth ei wneud iddynt eto. D.T. CYFE I RIADAU Ysgrifennydd Cyffredinol, Cymdeithas Addysg y Gweithwyr- Ernest Green, 38a St. George's Drive, London, S.W.l. Trefnydd, Rhanbarth Deheudir Cymru, Cymdeithas Addysg y Gweithwyr-D. T. Guy, Swyddfa'r WEA, 52 Charles St. Caerdydd. Trefnydd, Rhanbarth Gogledd Cymru, Cymdeithas Addysg y Gweithwyr—C. E. Thomas, Swyddfa'r WEA, Rhoslas, 33 Ffordd y Coleg, Bangor Golygydd LLEUFER—David Thomas, Y Betws, Bangor. Goruchwyliwr Busnes LLEUFER—D. Tecwyn Lloyd, Coleg Barlech, Harlech. Dosbarthwr LLEUFER—Mrs. Vera Meikle, Swyddfa'r WEA, JRhoslas, 33 Ffordd y Coleg, Bangor.