Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYF. V DYWEDODD John Winant, a fu'n llysgennad yr Unol Daleith- iau yn Llundain, a chyn hynny yn Gyfarwyddwr y Swyddfa Lafur Gydwladol Nid yw'n ddigon i garwr heddwch siarad heddwch. Rhaid i garwr heddwch ddeall rhyfel-ei achosion a'i gwrs. Nid yw gobeithio yn ddigon." Yn Rhifyn y Gwanwyn mi gychwynnais ymchwiliad i'r perygl rhyfel sydd yn bygwth y byd heddiw, rhyfel rhwng Rwsia a'r gwledydd Comiwnyddol ar y naill law a'r Unol Daleithiau a gwledydd Gorllewin Ewrop ar y llaw arall. Gofynnais faint o ryddid sydd yn y gwledydd Comiwnyddol. Dywaid y Comiwnyddion mai o dan eu llywodraeth hwy yn unig y ceir gwir ryddid a gwir ddemocratiaeth. Credaf ei fod yn wir fod gan y gweithwyr yn Rwsia fwy o lais yn rheoli amgylchiadau'r lle y gweithiant ynddo nag sydd gan weithwyr Prydain. Rhaid i ninnau wella pethau yn hyn o beth efallai bod angen canoli'r awdurdod yn y diwydiannau a genedlaetholwyd i ddechrau, ond disgwyliaf weld mwy o ddatganoli wrth symud ymlaen, a mwy o le i'r gweithwyr yn rheoli'r diwydiannau. Yn y peth hwn, gallaf goelio bod Rwsia ar y blaen inni, ond nid wyf yn siwr. Ond nid rhyddid ydyw hyn, heb gael rhyddid dinesig gydag ef. Faint o ryddid sydd gan ddyn yn Rwsia i anghytuno â'r Llywodraeth a dweud ei farn amdani heb gael ei gosbi ? Fe gyhoeddir digon o lyfrau ac ysgrifau yn America a Phrydain heddiw i ddisgrifio'r arswyd cyffredinol sydd yn Rwsia a'r gwled- ydd Comiwnyddol eraill, plismyn fel Gestapo yn gwylied symud- iadau a geiriau pawb, dynion yn cael eu cymryd ymaith o'u cartrefi yn y nos, heb siw na miw byth wedyn am beth a ddig- wyddodd iddynt. Ond faint o hyn sydd yn wir ? Faint o bardduo Rwsia am dâl sydd yn mynd ymlaen yng ngwledydd y gorllewin ? CYLCHGRAWN CYMDEITHAS ADDYSG Y GWEITHWYR YNG NGHYMRÜ NODIADAU'R GOLYGYDD LLEUFER HAF 1949 RHIF 2