Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

RHAMANT Y MOR GAN J. GLYN DAVIES YR oedd mwy na digon o ramant y mor pan oeddwn yn fachgen driugain mlynedd yn ol, mwy o'r haner nag sydd heddyw, a mwy o'r haner nag oedd y mor yn ei haeddu, wrth gofio am y bywyd caled a pheryglus, cyflog isel, bwyd sal, a dim digonohono, lle digysur i fyw ynddo, lle creulon ar dywydd mawr, a gweld cartref dim ond dwy waith mewn tair blynedd. Ond pa haws dal pen rheswm a'r llong urddasol o'ch blaen wrth y cei yn y Salthouse Dock, a'i mestys tal, a'i hiardiau hirion, a'i bowspryd a'i jibboom aruthrol, oll yn sgleinio yn heulwen mis Mai, a'i bows yn codi yn uchel ac yn fawreddog uwchben y cei ac ar ochrau'r bowsenw'r llong mewn llythrenau aur, enw un o'r llongau enwocaf, THERMOPYLAE. Yr oedd yn ddigon a'ch gwirioni, os oedd y mor yn eich gwaed o gwbl. Yr oedd cerdded ar hyd y dociau yn gerdded mewn byd o ryfeddodau, ar holl longau mawr yn rhesi diddiwedd, au mestys fel coedwig. Llongau o bob rig a phob siap. Brìg o Denmark, Blue Noser o Nova Scotia-llong goed fawr ai gwisg o gopor gwyrdd dan ddwr llong goed o Norway a starn yn gwneyd i chwi feddwl am ben casgen, a chwch yr un siap a llwy yn hongian dros y starn o'r bumkins, a melin wynt ar y dec yn gweithio pwmp i sbydu'r dwr o'r bilge. Llong o Rwsia, a starn pen casgen eto, ac enw'r llong ar y starn mewn llythrenau Rwsiaidd, yn gwneyd i chwi feddwl am don fechan yn yr hen nodiant. Llong o Balti- more yn fain ei thrwyn ac yn blaenllymu at y llyw wedi ei ffurfio at sleifio drwy'r mor. Llong arall heb fwy o siap arni na bocs hir wedi rowndio ron bach ary corneli, built by the mile and sawn off by the fathom, chwedl y llongwyr. Yr oedd llongwyr hyd y dociau yn bregliach ieithoedd dierth, ac ymylon gwledydd pell ger eich bron wrth wrando arnyn nhw. Os nad oedd rhamant yn y mor yn y pen draw, yr oedd aroglau rhamant dros y line of docks i gyd. Ac nid oedd bri y clippers wedi darfod, llongau cyflym a golygus yn cario lliain mawr, a'u hachau o Baltimore a Boston. Yn y masnachdai te yn Lerpwl byddai enwau'r llongau ar y canisters te yn y sample room New season Kaisow, ex s. Marco Polo, New season Moning ex s. Empress of the Seas, Souchong ex s. Thermopylae. Clippers yr