Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ARGLWYDD KEYNES GAN DYLAN PRITCHARD BETH oedd y digwyddiad pwysicaf yn 1936 ? Gofynnwch i economydd, ac os yw'n werth ei halen fe etyb mai cyhoeddi llyfr yr Arglwydd Keynes ar The Theory of Employment, Interest and Money. Yr oedd Keynes wedi sgrifennu llu o lyfrau pwysig a dylanwadol cyn hyn, llyfrau-fe1 y dywaid neb llai na T. S. Eliot-sydd yn glasuron o'r safbwynt llenyddol yn unig, heb sôn am werth eu cyfraniad at wyddor economeg. Ond dyma ei lyfr aeddfetaf, ac yn wir dyma'r llyfr pwysicaf a mwyaf ffrwydrol ei ganlyniadau yn holl hanes llenyddiaeth economeg. Yn y llyfr hwn, dymchwelodd Keynes yr ysgol glasurol mewn economeg a sylfaenwyd gan Adam Smith yn niwedd y ddeunawfed ganrif, ac a fu mewn bri am gant a hanner o flynyddoedd. Yn y llyfr hwn, hefyd, gosodwyd seiliau cadarn i'r hyn a elwir yr economeg newydd." Derbyniwyd hon yn awchus gennym ni yr economydd- ion ifainc, gan nad oeddem wedi ein trwytho'n ormodol yn y tra- ddodiad clasurol. Ac erbyn hyn, y mae'r mwyafrif o econo- myddion y byd-tu allan i'r llen haearn, wrth gwrs-yn perthyn i ysgol Keynes. Yn wir, a siarad yn gyffredinol iawn, nid oes ond dwy ysgol o economyddion heddiw-ysgol Karl Marx ac ysgol yr Arglwydd Keynes-a diddorol ydyw sylwi bod y naill a'r llall wedi tarddu o'r ysgol glasurol. Bu buddugoliaeth economeg Keynes yn ysgubol yng ngwled- ydd y gorllewin. Cyn ei farw yn 1946, cafodd y boddhad o weld Prydain a nifer o wledydd eraill yn sylfaenu eu polisi economaidd ar ei athrawiaeth ef. Nid yw Syr Stafford Cripps a'r Arglwydd Beveridge ond dau ymhlith llawer o arweinwyr gwleidyddol Prydain sydd heddiw'n ddilynwyr pybyriddo. Mewn gair, eco- nomeg Keynes yw'r uniongrededd newydd, mewn prifysgol a senedd. Pwy, a pha beth, oedd yr Arglwydd Keynes ? Ganed ef yn 1883, y flwyddyn wedi marw Marx. Addysgwyd ef yn Eton ac yng Ngholeg y Brenin, Caergrawnt. Yn y coleg hwnnw y treul- iodd y rhan fwyaf o'i oes, fel Darlithydd mewn Economeg. Yn wahanol iawn i'r rhelyw o economyddion, perthynai iddo allu dewinol i wneud arian. Yr oedd yn brif gyfarwyddwr cwmni pwysig, ac fel ei gyfaill Lloyd George yn amaethwr tra llwydd-