Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ar hyn o bryd, wrth gwrs, y mae'r galw am nwyddau yn fwy na'r cyflenwad, ac felly cwtogi'r galw yn hytrach na'i chwyddo yw gorchwyl y Llywodraeth. Ond fe ddaw'r angen am chwyddo'r galw rywbryd, os bydd arnom eisiau osgoi anghyflogaeth. Fe wneir hyn mewn llawer dull a modd. I nodi un dull, er enghraifft chwanegu at y gwario ar bethau fel tai, ysgolion, ysbytai, neuadd- au, trydan, ffyrdd. Ac yn bendifaddau, rhaid peidio â cheisio cyfarfod â'r gost trwy chwanegu at y trethi gwladol, o achos golygai codiad yn y trethi fod gennym lai i'w wario, ac'felly achosai leihad yn y galw. Ffolineb fyddai ceisio chwyddo'r galw ar y naill law a'i gwtogi ar y llaw arall, ac eto dyna'r math o beth a wnaethpwyd yn y gorffennol. Y ffordd orau i gyfarfod â'r gost fyddai codi mwy o'r trethi gwladol yn ystod y blynydd- oedd da nag a fyddai angen ar gyfer y treuliau, a thrwy hynny greu cronfa i'w gwario pan ddeuai'r angen. Dyna, gyda llaw, a wna'r Llywodraeth ar hyn o bryd. Diolch i'r Arglwydd Keynes, fe wyddom yn iawn erbyn hyn sut i sicrhau cyflogaeth lawn. Bu Keynes farw ar Sul y Pasg, 1946, yn ddwy a thrigain oed. Pan fu farw, ef, yn briodol iawn, oedd Llywydd Cymdeithas Frenhinol Economeg ie, yn briodol iawn, oherwydd, heb os nac oni bai, ef oedd economydd mwyaf diddorol, mwyaf dylan- wadol, a phwysicaf y ganrif hon. Y DYFRGI GAN DDOSBARTH CAEATHRO Anifail gwych am nofio-yw'r Ci Dwr, O'r cae daw, 'rôl crwydro Drwy ewyn dwr y naid o­ Yn y dwr y myn dario. (Cyfansoddwyd yr englyn hwn ar y cyd gan Ddosbarth Cae- athro, Caernarfon, o dan gyfarwyddyd athro'r dosbarth, Meuryn).