Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TRAFOD PWNC GAN T. HUGHES JONES Oni bai am arwydd y llew o'r tu allan prin y medrai neb ddweud mai ty tafarn oedd y Red Lion. Ar un olwg yr oedd ei furiau a'i ffenestri yn ei wneud yn debyg i hen dy annedd parchus ar olwg arall ymdebygai i festri capel. Byddai'n hawdd i ddi- eithriaid ruthro heibio iddo heb ddychmygu am ei swydd. Oni bai am lun y llew. Ar astell yr oedd y llun, a honno'n hongian wrth far haearn a ddeuai allan yn syth o'r mur uwchben y drws a chan nad oedd y drws yn wynebu'r ffordd fawr, ar un ochr yn unig yr oedd eisiau'r llun. Yr oedd traddodiad yn y gymdogaeth mai rhyw arlunydd meddw a beintiasai'r llun oherwydd nad oedd ganddo ddigon o arian i dalu am ei ddiod, a hawdd oedd credu hynny o edrych ar y darlun. Os byddai'r tipyn lleiaf o wynt siglai'r astell yn ôl ac ymlaen yn wichlyd, a deuai rhyw rith o fywyd i lun y llew. Ped aech i mewn trwy'r drws, gwelech gegin fawr a'i dodrefn a'i haddurniadau yn weddaidd-ddisglair a phan fyddai yno gwmni, yr oedd yr ymddiddan mor weddaidd â'r dodrefn. Ni welai neb y casgenni cwrw oherwydd cedwid hwy mewn ystafell arall, ac o honno o bryd i bryd y deuai cyflenwad pan âi'r gwydrau ar y bwrdd yn weigion. Credai John Edwards fod i dafarn a thafarnwr eu lle mewn ardal ac mewn cymdeithas,neu'n hytrach fod iddo ef a'r Red Lion eu He, a dyna oedd barn y plwyf. Pan fyddai blaenoriaid y capel yn rhybuddio'r bobl ieuainc rhag maglau'r ddiod, am gwrw yn y Beibl neu am dafarnau eraill y meddyliai pawb a phan geffid y bregeth ddirwestol flynyddol y Sul cyn Ffair Galan Gaeaf, at dafarnau digymeriad Trewylan yr âi meddyliau'r gwrandawyr. Nac edrych ar y gwin pan fyddo coch, pan ddangoso ei liw yn y cwpan yr oedd gwin a choch a chwpan yn creu rhyw ddarlun, ond nid darlun o gegin y Red Lion. Ni fyddai John Edwards ei hun, ac yntau yn gapelwr selog, yn teimlo'n anghysurus ar yr adegau hyn ac ni fyddai neb yn meddwl am droi i edrych sut yr oedd gẃr y Red Lion yn ymddwyn dan y cerydd. Rhan o drefniadau'r Cyfundeb oedd y cwbl, er mwyn pobl ddi-asgwrn-cefn ardaloedd eraill.