Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Mae'n well inni roi rhagor ar y tân," ebe John Edwards, waith mae gennym dipyn o fater i'w drin heno." Cydiodd mewn pren sych o'r gornel a gosododd ef ar y tân, a thair mawnen hir yn ei erbyn, gan guddio corff yr wylan yn hollol. Edrychai pawb ar y tân. Cydiodd John Edwards yn y papur llwyd a thaflodd ef ar y tân gan godi fflam dros ennyd. Yr oedd William James wedi cau ei gyllell a'i rhoi yn ei boced. Dyna," meddai John Edwards, fel yr oeddwn i'n dweud neithiwr, pe bai gwylanod yn bwyta barlys a chlywid yr astell yn gwichian yn y gwynt fel pe bai'r llew coch yn gorfoleddu. Y GADAIR WAG GAN CATHERINE HUGHES Pe gwyddwn y deuai o'r Wynfa I blith ei ddiadell fel cynt, Ehedwn dros ffriddoedd a bryniau, Pe medrwn, fel awel o wynt Pwy wyr nad yw heno yn rhifo Ei ddefaid wrth gorlan yr allt, A'r sêr uwch ei ben yn disgleirio, Ac awel y nos yn ei wallt ? Pwy wyr na fydd ef gyda'r wawrddydd Yn rhodio'n osgeiddig drwy'r cwm, Hyd erwau llechweddog y mynydd, A ninnau yn cysgu yn drwm ? Dychmygaf ei weled yn tremio Dros fryniau a ffriddoedd a dôl, Ar breswyl ei annwyl gyfeillion, Wrth gilio i'r anwel yn ôl.