Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

MEICROFFILMIO GAN W. LLYWELYN DAVIES ER bod yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru dros filiwn o lyfrau printiedig, mewn llawer iaith ac ar lawer pwnc, y mae eisiau pwysleisio nad casgliad o lyfrau printiedig yn unig ydyw hi. Y mae iddi ddwy adran arall-sef adran y llawysgrifau a'r dog- fennau ac adran y printiau, y darluniau a'rmapiau — a'rddwyadran hyn yn bwysig ac yn gynhwysfawr iawn. Fel y mae'n digwydd, y mae nifer y llawysgrifau a'r dogfennau ar hyn o bryd yn fwy na nifer y llyfrau printiedig-byddai dywedyd bod gennym dair miliwn 0 lawysgrifau a chofysgrifau yn amcangyfrif go lew o agos. 0 ble y daeth y miliynau hyn ? 0 blastai a thai llai, o swydd- feydd twrneiod a chlarcod siroedd, o bob cwr o Gymru ac o Lun- dain a mannau eraill yn Lloegr, o blastai'r esgobion, yr eglwysi cadeiriol a'r lleoedd tebyg a oedd â gofal cofysgrifau'r Eglwys yng Nghymru arnynt hyd yn ddiweddar, a hefyd o'r swyddfeydd hynny lle yr arferid cadw a thrin hen ewyllysiau a mapiau degwm Cymru gyfan. Y mae rhai o'r pethau hyn wedi dod yn rhodd, eraill wedi eu prynu, miloedd ohonynt yn fenthyg, a miloedd eraill wedi dod trwy weithred seneddol neu drefniant swyddogion cyfraith y Llywodraeth. Rhaid cofio bob amser fod Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gwneuthur yn Aberystwyth y gwaith a wneir yn Llundain gan ddau sefydliad, sef yr Amgueddfa Brydeinig a'r Public Record Office. Y mae staff arbennig yn trin y llawysgrifau a'r dogfennau hyn-dynion a merched sydd yn gyfarwydd â thrin hen ysgrifen- iadau yn Gymraeg, Saesneg, Lladin, Ffrangeg, Eidaleg, Almaeneg, a* hyd yn oed rai o ieithoedd y dwyrain. Eu gwaith ydyw eu trefnu'n hwylus a hylaw at wasanaeth darllenwyr. Ond y mae dau fath o ddarllenwyr-y rhai a fydd yn dyfod i'r Llyfrgell i astudio a chopio'r hyn sydd o fudd iddynt a'r rhai hynny (ac y maent yn ddosbarth lluosog) nad yw'n gyfleus iddynt ddyfod i Aberystwyth neu sydd yn well ganddynt weithio gartref. Sut y bydd y rhai olaf hyn yn cael y defnyddiau i'w hastudio yn eu cartrefi eu hunain ? Yr ateb ydyw-tnvy gyfrwng darluniau.