Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

luniau mewn wythnos. Yn sicr, nid oes unrhyw ffordd arall 0 gopio sydd mor gyflym, mor rhad, ac mor hwylus â hon, ac y mae, yn ddiau, gryn ddyfodol iddi. Gofynnodd rhywun i un o gyfeillion Lloyd George A fuasech- chi'n cyfri L.G. yn gwmni da i'w gymryd i'ch canlyn i saethu teigrod ? Atebodd yntau Mi fuasai hynny'n dibynnu ar sut yr oedd L.G. yn teimlo at y teigr. Osbuasai'n meddwl mai bwystfil gormesol oedd-o, yn ysbeilio tyddynwyr tlodion fel rhyw landlord trahaus, yn difa'u gwartheg ac yn bygwth eu hein- ioes, mi fuasai'n gwmni ardderchog. Ond os buasai'n gweld y teigr yn greadur truan â'r helwyr ar ei ôl, wedi ei yrru o'i gartref gwael yn y goedwig gan filiwnyddion o landlordiaid ar gefnau eleffantod, yna buasai'n berygl iddo gymryd ochr y teigr." Malcolm Thomson, yn y Cofiant newydd. Sôn am Lloyd George, fe adroddir stori ddiddorol amdano gan Dr. Weizmann, sylfaenydd Mudiad y Zionists, yn ei hunan- gofiant a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Gwahoddwyd ef i gymryd cinio canol dydd gyda Lloyd George, Tachwedd 11, 1918, ond pan ddaeth y bore hwnnw yr oedd y Cadoediad wedi ei gyhoeddi. Cafodd Weizmann neges, fodd bynnag, i ddweud bod Lloyd George yn ei ddisgwyl. Wedi ymwthio drwy'r torfeydd, ac ar- gyhoeddi'r plismyn anghrediniol fod ganddo wahoddiad i 10 Downing Street, cyrhaeddodd y ty. A dyma'i ddisgrifiad o'r hyn a ddigwyddodd Cefais y Prif Weinidog yn darllen y Salmau yr oedd wedi ei gynhyrfu i waelodion ei enaid, ac yn wir ar fin torri i grio. Y peth cyntaf a ddywedodd wrthyf oedd­‘ Yr ydym newydd anfon saith drên i'r Almeen, yn llwythog o fara a bwydydd angen- rheidiol eraill, i'r Cadfridog Plumer eu rhannu i bobl Cwlen'