Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GWYR ENWOG GAN R. T. JENKINS II MI gredaf mai i W. Jenkyn Thomas yn bennaf y dylid diolch am dynnu sylw Cymdeithas y Cymmrodorion at yr angen am Eiriadur Bywgraffyddol Cymreig 0 leiaf, sgwrs radio gan Mr. Thomas a ddaeth â'r peth i bwynt. Buwyd ar y dechrau'n troi o gwmpas y syniad o arbed amser gan gael caniatâd perchenogion y Dictionary of National Biography i gyfieithu'r ysgrifau yn hwnnw ar enwogion Cymreig, a'u cyhoeddi ynghyd ac yn wir gwaith cymharol hawdd a chyflym fuasai hynny. Ffolineb fyddai ceisio bychanu gwerth y gwaith godidog hwn, yn dair a thrigain o gyfrolau gyda phedwar o atodiadau fe'i cychwynnwyd yn 1882 ac fe orffennwyd y brif gyfres yn 1901-ymestyn yr Atodiadau o hynny hyd 1931. Cafodd Cymru Ie cwbl anrhydeddus ynddo-o leiaf yn y brif gyfres, oblegid y mae peth lle i gwyno ar yr Atodiad- au yn hyn o beth. Y prif ysgrifenwyr ar Gymry, ar y dechrau, oedd T. F. Tout (a fu'n Athro yng Ngholeg Llanbedr ac a wyddai lawer iawn am hanes Cymru yn yr Oesoedd Canol), Alexander Gordon (yr awdurdod pennaf ar encilion hanes Ymneilltuaeth ym Mhrydain), Daniel Lleufer Thomas, a Rees Jenkin Jones o Aberdâr, chwilotwr diwyd dros ben ond egwan ei syniad am feirniadaeth. Yr oedd eraill, mwy damweiniol-digri yw sylwi mai J. Ramsay MacDonald a sgrifennodd ar Forgan John Rhys (neu Rhees ")-heb feddu fawr syniad o le'r gwr hwnnw ym mywyd Cymru Ond yn 1893, gyda'r llythyren M, fe welir enw newydd-John Edward Lloyd, Cofrestrydd newydd Coleg y Gogledd. 0 hynny hyd ddiwedd yr Ail Atodiad (1912), sgrifen- nodd ef chwech ugain o ysgrifau i'r D. N. B.; yn wir, arno ef y syrthiodd y pen trymaf o'r baich Cymreig o 1893 ymlaen. Nid unwaith na dwywaith y clywais Syr John yn tystio mai ei bren- tisiaeth (chwedl yntau) ar y D.N.B. a wnaeth y gwahaniaeth iddo. Yr oedd ganddo ef ddau ddull o sgrifennu. Un oedd y dull hamddenol, urddasol, a welir yn ei lyfr mawr ar hanes Cymru, Ond y llall a welid fynychaf yn ei ysgrifau a'i fân gyfraniadau a ddarllenir gan mwyaf gan arbenigwYr-sgrifennu'n gryno a