Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ARWAIN STEDDFOD GAN LLWYD O'R BRYN "^ID o'm gwirfodd y cydiaf yn y testun hwn. Ofn bod yn hunanol sydd arnaf. Awgrym fy nghymderthion ydyw. Tewi a wnawn pe cawn lonydd, oherwydd arwyddion geni henaint ydyw profiad, ac y mae ar bawb ofn hwnnw. Mewn hen gofiannau ceir ymchwil y cofiannydd i gymhellion y gwrthrych i'w swydd. Tybed a oes raid cael rhyw Ddamascus mawr felly i bob byd ? Prin. Fyth gan geibio, bob tro y glawiai yn arw ar ganol dydd, caem fyned i'r clasrwm i chwarae consart, a chawn yr anrhydedd o alw ymlaen weithiau. Siawns nad yno y dechreuodd y chwilen ar ei chosi. Pa ddewin a wYr Ar ôl gadael Ysgol y Sarnau, bu cyfnod o gynefino â phlanciau llwyfan -adrodd neu ganu, a phan oeddwn yn llafn deunaw rhyfygais feirniadu. Gorfu i Parri Huws Dolgellau fynd adref o Rydymain tuag wyth, gan ddeisyfu bendith ar ei was'bach ymhellach hyd hanner nos Cofio'r alwad fewnol am fwyd Mantais fawr at waith mor ddi-hid o amser ydyw absenoldeb y duedd at gur pen. Tebygwn y gallai peth felly greu difaterwch. Da hefyd cael dwygoes gadarn-ufudd i bob galwad. Lle pwysig ydyw corn gwddw arweinydd Steddfod-yno y mae'r traffig mawr. Anfantais ydyw bod yn bregethwr, oherwydd fe ffitia rhyw gymal pregeth i fortais hwylus yng nghorff y Steddfod. Rhaid rhoi'r areithiwr gwladgarol yn yr un cwch. Buan y daw cynulleidfa i adnabod brawddegau parod, a dyna'r arddeliad yn swilio i ffwrdd. O flaen popeth, dywaid profiad mai dawn busnes ydyw'r blaen- af o bob cymhwyster. Mynn y pwyllgor orlwytho'r rhaglen. Bu dadl frwd wrth ei llunio mai newydd gael ei un ar ddeg yr oedd John bach Tŷ Pella, a bod Huw Tyn Pant yn ymyl ei dair ar ddeg. Felly, dylid dwy gystadleuaeth-un dan ddeuddeg a'r llall drosodd. Mwyafrif o blaid Cewch glywed curiad calon dyner yr Ysgrifennydd pan ddywaid nad oes fodd cael rhagbraw ar yr Her Unawd-" cerdyn y bore 'ma oddi wrth Eos Tryweryn yn dweud na fedr gau'r siop tan saith, ac nad yw ei foto beic yn rhy fflamllyd." Clywir pesychiad rhy delynegol y tu ôl i Mrs. Andrews y Mans pan fo'n beirniadu