Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PROFIAD MYFYRIWR GAN MICHAEL GARETH LLEWELYN Y DOSBARTHIADAU nos a hoffwn yn fwyaf oedd rhai'r WEA, a gynhelid yn Ysgol y Cyngor ar Nos Iau a Nos Wener. Economeg, Hanes Cymdeithas, a Dinasyddiaeth oedd y pynciau, a byddem yn astudio llenyddiaeth hefyd, a'i chefndir cymdeith- asol. Deuai caniadau Elizabeth Browning â dagrau i'm llygaid, a dywedai Clayhanger Arnold Bennett wrthym am amgylchiadau'r bobl yn y Potteries. Darllenem lyfrau Ness Edwards ar The Industrial Revolution in South Wales, a The History of the South Wales Coal Miners, ac astudiem hefyd lyfr o waith Tomos Evans y gof, ar hanes ein plwyf. Teimlem yn falch wrth feddwl bod un ohonom ni ein hunain wedi sgrifennu llyfr a astudid ochr yn ochr â gweithiau hyd yn oed yr athro mawr o Gaergrawnt, yr Athro Marshall. Daeth un peth ardderchog imi drwy fy nghysylltiad â dos- barthiadau'r WEA. Cefais gynnig cwrs yn yr unig goleg preswyl yng Nghymru, sef Coleg Harlech. Yno yn y coleg cyfarfûm â glowyr, chwarelwyr, ffermwyr a chrefftwyr o bob math. Braidd yn debyg i Ysgolion Cylchynol Griffith Jones ymhell yn ôl yn 1750 oedd y coleg hwn, a'i fyfyrwyr o bob oed o ddeunaw i drigain a throsodd, a'r cwbl ohonynt yn dysgu er mwyn dysgu, ac nid er mwyn dim ennill ym mhethau'r byd a ddeuai iddynt trwyddo. Y fath awyrgylch gwahanol a roddai hyn i'n holl efrydiau, mor annhebyg i astudio ar gyfer arholiad i'n cymhwyso i ryw alwedig- aeth. Wedi imi ddychwelyd o Goleg Harlech, tybiwn fod fy ngolwg yn gliriach, a'm llygaid mewn cytgord â phethau cyffredin fy mywyd yn y pentref. Byddai'r Prifathro yn Harlech yn arfer dweud wrthym ein bod yn byw llenyddiaeth bob dydd,*ac yn gwneud hanes, ac mai pethau bychain ein bywyd, a hynodion y rhai a oedd o'n cwmpas, oedd hanfod llenyddiaeth," i'w ddis- tyllio er hyfrydwch i'r lliaws gan yr ychydig a feddai'r glust i wrando, a'r llygad i weled, a'r ddawn i ddisgrifio pethau fel yri oeddynt.