Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

A FY YMWELIAD A'R GYNHADLEDD GAN TOM OWEN CEFAIS y fraint o fod yn un o gynrychiolwyr Rhanbarth y Gogledd yng Nghynhadledd Flynyddol y WEA y llynedd. Cynhaliwyd hi yn Cheltenham ar Hydref 23 a 24. Croeso oedd arwyddnod Cheltenham i'r Gynhadledd, a hyfryd oedd cyfarfod ar nos y gynhadledd yn y Coleg i wrando anerch- iadau Proff. Tawney, Mrs. Fisher, Is-gadeirydd y TUC, ac Is- ganghellor Coleg Bryste. Yr oedd cynrychiolwyr ac aelodau'r gynhadledd gymaint ag arfer-209 yn cynrychioli'r Canghennau, 123 y Cymdeithasau Cysylltiedig, 57 y Rhanbarthau, ac 85 0 aelodau'r Cyngor Canolog-cyfanswm o 474. Agorwyd y Gynhadledd fore Dydd Sadwrn, â gair o groeso gan Faer Cheltenham, yn Neuadd y Dref, ac am y gweddill o'r dydd trafodwyd yn drylwyr waith a phwrpas y mudiad trwyddo draw. Dangosai'r Adroddiad Ariannol fod y rhagolygon i'r cyfeiriad hwn yn addawol, ac wedi gwella ar ôl apêl y flwyddyn gynt, ond y mae angen mwy eto. A yw'n bosibl nad oes gan fudiad y WEA ddim ymdeimlad o Gyfrifoldeb Ffederal, a bod athrawon yn ymboeni mwy i geisio cadw rhif eu dosbarthiadau a cholli diddor- deb yn y Gangen a'r mudiad ? Eto, os yw'r dosbarthiadau'n methu â thalu eu cyfraniadau, yna nid oes ganddynt gred yn y WEA. Am y pum mlynedd nesaf bydd mudiad addysg pobl mewn oed yn wynebu amser caled, a pheth anffodus iawn ydyw bod yn rhaid gwario amser i wneud ceisiadau am arian. Yn ei araith o'r gadair, pwysodd Harold Clay ar y ffaith ei bod yn ddyletswydd ar bawb wrthwynebu pob ymgais i lyffeth- eirio trafodaeth rydd, a bod ar y sawl sydd yn gwerthfawrogi'r mudiad gyfrifoldeb i amddiffyn rhyddid. Y mae'r WEA a'i bryd ar roddi inni ffeithiau, ac nid ein plygu i syniadau unrhyw ddyn. Ymwrthod â ffactorau allanol yw ein hamddiffynfa y mae anoddefgarwch a rhagfarn yn ymdaenu dros yr holl wledydd. Cydymgais sydd yn ffynnu yn y maes cydwladol heddiw, ac felly gobeithiwn y bydd ymdrechion ein Hysgrifennydd Tramor i ddiogelu heddwch yn llwyddiannus. Y mae angen am ysbryd newydd heddiw, rhwng y bobloedd a'r cenhedloedd, a gofal dros