Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

RHANBARTH Y GOGLEDD GAN C. E. THOMAS DYNA hwylus fu'r tywydd ddechrau'r flwyddyn. Dim eira na rhew yn llyffethair ar deithio i ymweld â'r dosbarthiadau. Mewn gwirionedd, y tywydd mor braf yn ystod Chwefror a Mawrth e s peri inni feddwl i'r gwanwyn ddechrau ddeufis yn gynt nag arfer. Cryn dipyn yn wahanol i'r eira mawr a gafwyd ddwy flynedd yn ôl. Bu graen rhagorol ar y dosbarthiadau eleni — ond glaw go drwm weithiau yn rhwystro pobl o bell i fyned i'r dosbarth. Y maent oll wedi gorffen erbyn hyn, a rhan helaeth ohonynt wedi cwpláu eu trefniadau at y tymor nesaf. Oherwydd y tywydd braf cefais gyfle i gyfarfod llawer o ddos- barthiadau ar ôl y Nadolig. Pleser digymysg i mi ydyw ymweld â'r myfyrwyr yn y dosbarthiadau. Myned i ddosbarth Cynwyd un noson a chael cymryd rhan yn y drafodaeth-trafodaeth dda hefyd — ond ar y diwedd y llywydd yn ymddiheuro am fod pedwar o'r aelodau blaenllaw i ffwrdd. Y rheswm oedd bod eisteddfod mewn pentref cyfagos, a bod un aelod o'r dosbarth yn ei harwain, un arall yn beirniadu'r adrodd, un] arall y canu, a'r pedwerydd yn gwneud rhywbeth arall. Dyna dalentau toreithiog o un dos- barth WEA. Noson arall yn Uwchmynydd, tu draw i Aberdaron, a chael derbyniad croesawgar. Noson olaf y dosbarth. Wedi'r ddarlith cael swper a thrafodaeth fywiog, y drafodaeth yn parhau ar ôl y swper, a myned oddi yno tua chartref ymhell wedi deg o'r gloch y nos a'u gadael yn trafod. Credaf eu bod wedi gorffen erbyn hyn. Mwynhau cwmni amryw o ddosbarthiadau, ac yn eu mysg Lanberis, Clocaenog, Ffynnongroyw, Penygroes, Black Park, Diserth, Cricieth, a Choedllai cael gwahoddiad yno eilwaith i swper wedi terfynu'r tymor. Ond nid y swper oedd y prif bwrpas, eithr mynd yno eilwaith i sefydlu Cangen, neu'n hytrach ail-sefydlu'r Gangen a fu mor weithgar yno yn y gorffennol. Llwyddo i wneuthur hynny. Cefais lawer gwahoddiad gan ddosbarthiadau i fynd i swper- diwedd-tymor, ond gorfod gwrthod, er mawr boen. Y mae'r