Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

RHANBARTH Y DE GAN D. T. GUY Y MAE'R Canghennau yn awr yn cynnal eu Cyfarfodydd Blyn- yddol. Byddant yn adolygu gwaith tymor y gaeaf, ac yng ngoleuni eu llwyddiant a'u haflwyddiant ceisio gynllunio sut ì wella pethau y gaeaf nesaf, a chryfhau'r gangen, ei dylanwad a'i hapêl. Un item pwysig iawn fydd ystyried sut i ennill mwy o gymorth i gyllid y Rhanbarth, dros ben yr hyn a geir oddi wrth daliadau aelodau'r canghennau. Nid rhaid imi ddweud wrthych fod ein hangen yn fawr. Y llynedd, trefnodd nifer o'r canghennau ym- gyrchoedd arbennig i gasglu arian. Trefnodd Cangen Porth Talbot, er enghraifft, Gyngerdd Enwogion, a chyflwynodd yr enillion i drysorfa'r Rhanbarth. Cynorthwyodd canghennau eraill — Troed-y-rhiw, Llwchwr a'r Rhondda-drwy roddi peri fformiadau cyhoeddus o ddramau a sgrifennwyd ac a gynhyrch- wyd gan athrawon ac aelodau dosbarthiadau'r WEA. Gobeithio y byddant yn trefnu rhywbeth tebyg i hyn eleni. Mi glywais yn ddiweddar, er dirfawr syndod imi, fod cyfaill caredig yng nghylch Bargoed wedi gwneud clustog yn ystod misoedd y gaeaf, a'i gyflwyno i'r gangen i'w rafflo ymhlith yr aelodau. Enillwyd £ 15 yn y ffordd YUla-ffordd go newydd i ennill arian. Trefnwyd nifer o Ysgolion Bwrw Sul a Chyrsiau o Ddarlithiau, mewn cydweithrediad a'r WETUC, yn ystod misoedd Ebrill a. Mai: Cwrs o bum darlith yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, bob Nos Fercher o Ebrill 27 hyd Fai 25, ar Y Gweithwyr o dan Genedlaetholi." Dyma restr o'r darlithiau Ebr. 27, Tuedd- iadau Presennol mewn Cyfundrefnu Diwydiant Mai 4, Polisi Cyflogau a'r Undebau Llafur," y ddwy gan yr Athro A. T. Bea- cham Mai 11, Problem yr Oruchwyliaeth o dan Genedlaetholi"; Mai 18, Swydd yr Undebau Llafur o dan Genedlaetholi," y ddwy gan Dr. N. S. Ross Mai 25, Gweriniaeth Ddiwydiannol ac Addysg," D. T. Guy. Ysgol Fwrw Sul, yng Ngwesty'r WTA, Castell Dunrafon,. Southerndown, Ebrill 30 hyd Fai 1. Tair darlith gan Dr. N. S. Ross, o Goleg Caerdydd, ar Broblem yr Oruchwyliaeth mewn