Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLYFRAU NEWYDDiON Yr Ymchwil, gan Tom Nefyn-Williams. Gwasg Gee. 10/6. Philip Jones Pregethau ac Emynau, golygwyd gan Nantlais. Llyfrau'r Dryw. 4/ Y mae Cymru yn lle anfanteisiol iawn i'r hunangofiannydd, ac yn enwedig os yn Gymraeg yr ysgrifenna, canys y mae ein gwlad yn rhy fychan ac adwaenom ein gilydd yn rhy dda, ac yr ydym yn bobl rhy fusneslyd ym mhethau ein gilydd. Gwaeth fyth os pregethwr fo'r hunangofiannydd, canys saif pregethwr hyd yn oed heddiw ynghanol taboos olawer math, a rhaid iddo fod yn ofalus sut y symuda, a chymaint o bobl huawdl o'i gwmpas yn ei fanwl wylio. Gweithred o ddewrder felly-hollol nodwedd- iadol ohono ef ei hun­oedd i Tom Nefyn-Williams roddi inni yn y llyfr hwn ac yneiddull arbennig ei hun stori nodedig ei bererindod. Y mae'r llyfr hwn yn fwy na hunangofiant un person arbennig ­er ei fod yn hynny, yn bendifaddau. Y mae'n gofiant i gen- hedlaeth ac oes, gan sylwedydd manwl sy'n gyfuniad o'r bardd a'r meddyliwr, y cyfrinydd a'r man of action, a hefyd-ac nid y lleiaf-yn llenor gwiw. Cofiant i oes, meddwn, cofiant i hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif gan Gymro a Christion, ac y mae cwmpas y cofiant gyfled â bywyd yr ugeinfed ganrif. Mor drwmlwythog yw'r cofiant hwn i oes--cynyrfiadau mawr dau ryfel byd, rhaib diwydiannaeth gyfalafol a'i chwalfa o fywyd a safonau, y gwrthdaro economaidd, delfrydiaeth a materoliaeth y ddwy ochr fel ei gilydd yn y frwydr rhwng y Dde a'r Chwith mewn gwleidyddiaeth a chrefydd, gwar- eiddiad mewn argyfwng, cymdeithas ar chwâl ac ynghanol y cwbl gweinidog ifanc-etifedd syml diwylliant Llyn a doethineb orfod a chymhleth y Rhyfel Cyntaf-yn ceisio cadw ei enaid a dilyn ei seren. Nid yw'r llyfr hwn yn ddim llai na dogfen hanes- yddol am yr egnïon a'r tueddiadau a ffurfiodd feddwl ac àgwedd cenhedlaeth gyfan. Ac oherwydd hynny hefyd y mae ein dyled yn fawr i'r awdur amdano. Llyfr ydyw hwn y caiff pobl ynddo yr hyn a geisiant. Y sawl a ymhoffa yn yr ymadrodd cain a'r cyffyrddiad celfydd, fe'i llawn ddigonir yn ei ddalennau toreithiog. Caiff yr hanesydd — yn enwedig yr hanesydd eglwysig-¾ddefnyddiau yma nas ceir yn unman arall. Ac y mae yma ddefnyddiau ddigonedd i'r pro- pagandwyr gwleidyddol a chrefyddol.