Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Crefft y Stori Fer. Golygwyd gan Saunders Lewis. Y Clwb Llyfrau Cymraeg. Gwasg Aberystwyth. 4/ Pump o sgyrsiau rhwng y golygydd a phump o sgrifenwyr storïau byrion, a ddarlledwyd yn ystod gaeaf 1947-48, yw cynnwys y llyfr hwn. Ceir rhagair gan Alun Llywelyn-Williams, a oedd yn gyfrifol am y gyfres hon o raglenni. Yr awduron a holir yw Kate Roberts, D. J. Williams, J. O. Williams, Islwyn Williams a John Gwilym Jones. Ar lawer ystyr y mae teitl y llyfr yn gamarweiniol, canys nid sgyrsiau a ddisgwyliem dan deitl mor llawlyfrol. Cydnebydd Alun Llywelyn-Williams hyn yn ei ragair. Ychydig o sôn a fu am grefft y stori wedi'r cwbl, ar waethaf teitl y gyfres. Ond ni bu edifar gennyf am hynny ac ni allaf gredu bod Mr. Saunders Lewis yn edifar ganddo chwaith, oblegid o dan ei ddoeth lywyddiaeth ef-ac efo'n unig biau'r clod am y croesholi deheuig a phwrpasol a brofodd pob un o'r siaradwyr yn ei dro-cafwyd rhywbeth gwerth- fawrocach. Yn y sgyrsiau yma dadlennwyd cyfran bwysig o hunangofiant pump o'n prif lenorion." Â Saunders Lewis wrth eu holi ar ôl cefndir cymdeithasol a llenyddol yr awduron, blynyddoedd eu prentisiaeth a nodweddion arbennig eu storïau. Na thybied neb mai pum guestionnaire wedi eu cwpláu sydd yma. Yr hyn a gawn yw pum sgwrs yn llawn ysbrydiaeth a syniadau rhwng y storiwyr, y naill ar ôl y llall, a llenor craff. Haedda iaith y sgyrsiau sylw y mae'n esiampl o Gymraeg llafar safonol. Y mae'n Gymraeg cywir ond yn llacach ac yn llawnach o ffurfiau cywasgedig na Chymraeg llyfr. Ceir yr un gwahaniaeth rhwng Saesneg llafar safonol a Saesneg ysgrifenedig y brenin. Ond mewn Cymraeg llafar safonol rhoddir mwy o ryddid i'r siaradwr ar lwyfan, mewn pulpud neu o flaen y meicro- ffon, i ddefnyddio acen leol a geiriau a throeon ymadrodd tafod- ieithol. Gosodwyd safon i'n Cymraeg llyfr gan John Morris Jones ac eraill yn gynnar yn y ganrif hon yn y blynyddoedd hyn clywn sefydlogi safon ein hiaith lafar gyhoeddus. Gan y BBC y mae'r cyfleusterau gorau i wneud y gymwynas hon â'r genedl, ac mewn sgyrsiau fel y rhai ar y stori fer y mae ar y llwybr iawn. Cofied y Gorfforaeth gan hynny fod yn rhaid i'w gofal i gadw safon wrth drylwyredd ymhob adrano ddarlledumewnCymraeg,osmynn yr un llwyddiant ag a ddaeth drwy ymdrechion John Morris Jones.