Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Hen Longau a Llongwyr Cymru Old Ships and Sailors of Wales, gan David Thomas. Cyfres Gwyl Dewi. Gwasg y Brif- ysgol. 2/6. Rhigwm i'r Hogiau, gan Erfyl Fychan. Gwasg Gee. 4/ Y Llwynog, gan Rhiannon Davies. Llyfrau'r Dryw. 2/6. Hen Lythyrau, gan Robin o Feirion. Llyfrau Pawb. Gwasg Gee. 1 /6. Golygydd Lleufer yw awdur y gyfrol gyntaf, ond nid dyna'r rheswm pam y cymhellaf fy narllenwyr i'w phrynu. Dyma lyfr gwir ddiddorol ar agwedd ar Hanes Cymru na chafodd lawer iawn o sylw gan ein hawduron hyd yn hyn. Y mae gan Mr. Thomas nid yn unig wybodaeth eang a manwl o'i bwnc, ynghyda diddor- deb di-ben-draw yn y llongau bach, ond fe ŵyr hefyd sut i gyflwyno'r wybodaeth a'r diddordeb hwnnw i'r plant ysgol y darperir y cyfrolau hyn yn bennaf ar eu cyfer. Ysgrifennodd y llyfr hwn yn yr arddull agos-atoch hwnnw a'i gwnaeth yn sgwrsiwr mor gymeradwy ar y radio, ac o'r herwydd bydd mor dderbyniol gan ddarllenwyr LLEUFER â chan blant yr ysgolion. Trinnir y pwnc ar gynllun amseryddol, gan ddechrau efo'r Oesoedd Cynnar, a dyfod i lawr heibio i'r Cyfnod Tuduraidd a'r Anturiaethwyr i'r ddeunawfed ganrif, a hyd ddiwedd y ganrif ddiwaethaf-cyfnod y gellir ei alw'n Oes Aur y llongau bach. Braslun a geir wrth gwrs o faes mor fawr, ond llwyddodd yr awdur i ddwyn i mewn ambell ffaith fach ddiddorol dros ben, fel y bil am provisions y Betty and Kate ar t. 40. Synnais braidd nad oes ganddo gyfeiriad at lynges Gruffudd ap Llywelyn, a losg- wyd gan Harold frenin Lloegr yn Rhuddlan yn 1062, a hefyd nad oes gyfeiriad at Barti Ddu. Nodaf yma rai brychau. Ar t. 26-27 ceir brawddeg yn Çrym- raeg nas ceir yn y cyfieithiad Saesneg. Saesneg yn unig yw iaith y map, ac nid oes deitl iddo chwaith. Ymhlith y deuddeg darlun o forwyr, llongau a phorthladdoedd ceir un camgymeriad a wneir yn ami iawn gan arlunwyr wrth dynnu llun llong hwyliau-tra bo'r llong ar lawn hwyl, a gwynt cryf o'i hôl, bydd baneri'r llong yn chwifio tuag yn ôl, ac i ddannedd y gwynt Ar ddiwedd y llyfr ceir geirfa fer, ddefnyddiol dros ben i landlubber fel fi, yn esbonio'r gwahaniaeth rhwng slwp, sgwner, brig, a barc, etc.; ac ar ôl hynny restr lyfrau ("llyfres" yw enw'r awdur arni) wedi ei rhannu'n Llyfrau i'w Darllen a Llyfrau i'w Hastudio." Dyna ddosbarthiad go graff