Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Llyfrau eraill:- Siôn a Siân. Penillion gan Nantlais, a lluniau lliw gan E. Meirion Roberts. Llyfrau'r Dryw. 4/ Anturiaethau Lili Lwyd, gan Alwyn Thomas. Lluniau lliw gan H. Douglas Williams. Llyfrau 3 a 4. Gwasg y Brython. 1 /3 yr un. Tri o lyfrau campus i ddifyrru a hyfforddi plant. Saith Drama, gan Anna Percy Davies. Gwasg Aberystwyth. 2/6. Dramâu byrion, ysgafn, digrif. Bydd plant wrth eu bodd yn eu hactio-ag eithrio'r olaf, efallai. Fel y Dur, drama un-act gan Eiddwen James. Gwasg y Brython. 1 Drama fer i dri o ddynion a phedair o ferched. Sbando'r Llinyn, gan Richard Jones. Lluniau gan E. Meirion Roberts. Gwasg y Brython. 1 /3. Straeon i blant, rhai difyr dros ben. Ond mathemategydd go symol oedd yr hen Sbando. Dail Ceiniog, gan Rose Hackforth Protheroe. Gwasg Aber- ystwyth. 4/ Disgrifiad diddorol o Dyddewi a'r cylch, ar lun hanes tri o fechgyn yn crwydro o gwmpas, a merch ledrithiol, drwy iddynt rwbio'u Uygaid â dail ceiniog," yn dangos iddynt weledigaethau o'r hyn a ddigwyddodd ymhell yn ôl. CYFEIRIADAU Ysgrifennydd Cyffredinol, Cymdeithas Addysg y Gweithwyr- Ernest Green, 38a St. George's Drive, London, S.W.I. Trefnydd, Rhanbarth Deheudir Cymru, Cymdeithas Addysg y Gweithwyr-D. T. Guy, Swyddfa'r WEA, 52 Charles St., Caerdydd. Trefnydd, Rhanbarth Gogledd Cymru, Cymdeithas Addysg y Gweithwyr-C. E. Thomas, Swyddfa'r WEA, Rhoslas, 33 Ffordd y Coleg, Bangor. Golygydd LLEuFER-David Thomas, Y Betws, Bangor. Goruchwyliwr Busnes LLEUFER—D. Tecwyn Lloyd, Coleg Harlech, Harlech. Dosbarthwr LLEUFER—Miss G. M. Jarman, Swyddfa'r WEA, Rhoslas, 33 Ffordd y Coleg, Bangor.