Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Coleg Harlech (Coleg Preswyl i Addysg Pobl Mewn Oed) Warden I. DAN HARRY, M.A. Y mae'r Coleg yn meddu adeiladau gwych wedi eu gosod mewn cefndir swynol, ac y mae'r cyrsiau yn agored i fechgyn a merched o ugain oed ac uchod sydd wedi colli'r cyfle am addysg bellach oherwydd troi i weithio. Cydweithreda'r Coleg â Chymdeithas Addysg y Gweithwyr (ar linellau Coleg Ruskin yn Rhydychen) a chyda'r Dosbarth- iadau Adran Allanol ac awdurdodau eraill. Cynhelir Cyrsiau am Dymor ac am Flwyddyn mewn Llenyddiaeth Gymraeg, Llenyddiaeth Saesneg, Economeg, Hanes, Athroniaeth, Gwyddor Gwleidyddiaeth, Seicoleg, Hanes Cymru, Cerddoriaeth, Celf a Chrefft. Y tal am addysg a llety i mewn yn y Coleg. ydyw £125 y flwyddyn neu £45 yr un anr Derm y Gaeaf a'r Gwanwyn, a £35 am Derm yr Haf. Cynigir Ysgoloriaethau a Chymorth ariannol sy'n ddigonol i dalu'r costau hyn i gyd gan y Coleg ei huhan. Gellir cael Rhaglen y Coleg sy'n trafod y Cyrsiau a'r Ysgoloriaethau (a rhai ffynonellau ariannol eraill a gynigir i gynorthwyo myfyrwyr dewisol) gan—Yr Ysgrifennydd, Coleg Harlech, Harlech, Meirionnydd. Anfonwch ato ar unwaith am bob gwybodaeth bellach. R. Evans a'i Fab. Y Seren. Bala.