Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYF. V T~\YMA gymryd blwyddyn i drio cael hyd i'r rheswm pam y mae America a Rwsia'n bygwth mynd i ryfel â'i gilydd, a llusgo gwledydd eraill i mewn i'w canlyn, a theimlaf nad wyf wedi gwneud fawr mwy na churo'r twmpathau eto. Ni bu gormod o gariad rhwng America gyfalafol a Rwsia Gomiwnyddol erioed, a'r ddamwain fod Hitler yn digwydd bod yn elyn i'r ddwy wlad a'u dug i ymladd ochr yn ochr yn ystod y rhyfel. Enynnwyd llawer o edmygedd o Rwsia gan y modd yr ymladdodd ei phobl y pryd hwnnw, a'r ysbryd unol a amlygwyd ganddynt, a'r praw fod trefn economaidd Sosialaidd yn medru sefyll ergydion trymion rhyfel. Ond edmygedd unochrog ydoedd, o achos ni chafodd pobl Rwsia gyfle i wybod am wrhydri a gorchestion pobl Prydain a Gorllewin Ewrop. Yn ôl radio a phapurau newydd Rwsia, hi a gynhaliodd faich y rhyfel bron i gyd. A barnu oddi wrth deimladau'r bobl gyffredin yn y wlad hon-a hyd y gwn i, yn America hefyd-Yr oedd gobaith am gydweithrediad a chyfeillgarwch rhwng Rwsia a gwledydd y gorllewin wedi i'r rhyfel orffen. Tebyg nad oedd rhai pobl mewn safleoedd uchel yn y gwledydd hyn yn teimlo mor gynnes at Rwsia, ond y mae un ffaith arwyddocaol yn ym- ddangos i mi'n braw go glir fod Llywodraethau swyddogol America a Phrydain, beth bynnag, yn edrych ymlaen at gyfnod o heddwch a chydweithrediad â Rwsia. Y ffaith hon ydyw eu bod wedi arwyddo Cytundeb Potsdam i rannu Berlin yn bedair rhan rhyngddynt a Ffrainc a Rwsia, heb wneud un ddarpariaeth i ddiogelu iddynt eu hunain fynedfa rydd i'r ddinas drwy'r adran Rwsiaidd o'r Almaen. Y mae'n anhygoel y buasai neb mor ddiniwed â gwneud trefniadau mor benagored â hyn petasent wedi dychmygu y byddai Rwsia a hwythau'n anghytuno cyn gynted ag y deuai'r rhyfel i ben. Nid ymrafael syml rhwng Rwsia ac America ydyw hi chwaith y mae'r safle gryn dipyn yn fwy cymhleth na hynny. Yn ystod CYLCHGRAWN CYMDEITHAS ADDYSG Y GWEITHWYR YNG NGHYMRÜ NODIADAU'R GOLYGYDD LLEUFER GAEAF 1949 RHIF 4