Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

yr etholiadau yn Itali y llynedd, cefais aml sgwrs ag offeiriad Pabaidd oddi ar y Cyfandir. Yr oedd yn ffyddiog iawn na châi'r Comiwnyddion yno yr un 30 y cant o'r pleidleisiau, ac nid oedd ymhell o'i Ie. Dywedodd wrthyf fod yr offeiriaid yn Itali, drwy orchymyn y Pab, wedi rhybuddio'r bobl rhag pleidleisio i'r Comiwnyddion ar boen colledigaeth dragwyddol eu heneidiau." Nid oes a wnelwyf i ddim â chrefydd Eglwys Rufain, ond y mae'r Babaeth yn un o'r galluoedd gwleidyddol mawr cydwladol, ac yn defnyddio'i gallu ysbrydol i hyrwyddo'i hamcanion felly, rhaid inni ei chymryd hithau i'r cyfrif. Yn wir, fe ellid dweud mai un agwedd ar wleidyddiaeth ddiweddar Ewrop ydyw cyd- ymdrech rhwng totalitariaeth Moscow a thotalitariaeth Rhufain. Ac y mae America'n gallu cydweithredu â'r Babaeth heddiw yn erbyn Rwsia yn union fel y cydweithredodd â Rwsia beth amser yn ôl yn erbyn Hitler. Y mae'n haws gwybod beth ydyw meddwl, neu feddyliau, America, am fod ei gwasg yn rhydd, ond ni allwn wneud mwy na dyfalu beth sy'n digwydd tu ôl i'r llen haearn," ac ym meddwl Joseph Stalin. Nid y bom atom ydyw achos yr elyniaeth rhwng y ddwy wlad yn hytrach, diffyg ymddiried yn ei gilydd sy'n rhwystro iddynt gytuno ar reoli'r bom atom. Cred llawer o bobl America fod Rwsia'n benderfynol o ddefnyddio pob gallu sydd ganddi i sefydlu Comiwnyddiaeth drwy'r byd, ac nad oes dim ond cadw'rgwledydd eraill ynddigon cryf i'w gwrthsefyllaallddiogelu'r heddwch a rhwystro iddi sefydlu Comiwnyddiaeth ymhob gwlad trwy rym arfau. Gorchwyl hawdd fyddai dyfynnu rhai o ddywed- iadau Lenin i gadarnhau'r dybiaeth hon. Cyfyd cwestiwn arall hefyd, sef pa gyn belled y mae Rwsia'n defnyddio Comiwnyddiaeth mewn gwledydd eraill yn llawforwyn i gadarnhau ei safle fel Gallu Mawr yn y byd. Dengys ei hymddygiad at Iwgoslafia ei bod yn hawlio gan bob gwlad Gomiwnyddol berffaith ufudd- dod i'r Cominfform, sef i Rwsia. Pe na bai perygl rhyfel, fe allai Comiwnyddiaeth fod yn elfen iach ym mywyd y byd, trwy gadw'r gwledydd democrataidd ar flaenau eu traed. Y mae Rwsia'n feirniad effro ar bob gormes ond ei gormes ei hun, ac efallai mai'r gobaith cryfaf sydd gennym am ffrwyno rhysedd y dynion gwyn yn Ne Affrica, er enghraifft, ydyw ofn beirniadaeth a phropaganda'r Comiwnyddion. Ond rhaid tewi bellach.